Mae trefnwyr gŵyl ffilmiau byrion LHDTC+ wedi gwahodd ceisiadau i dderbyn ffilmiau ar gyfer yr 17eg Gŵyl Ffilm Gwobr Iris.

Mae’r ŵyl ffilm yn chwilio am ffilmiau byrion a ffilmiau nodwedd, ac mae 14 o wobrau i’w dosbarthu, gan gynnwys Gwobr Iris gwerth £30,000 sy’n cael ei chefnogi gan Sefydliad Michael Bishop.

Bydd enillydd Gwobr Iris Gorau ym Mhrydain, sy’n cael ei chefnogi gan Film4 a Pinewood Studios, yn derbyn pecyn o wasanaethau wedi’u noddi gan Pinewood Studios, ac mae pob un o’r ffilmiau sydd wedi’u henwebu yn gymwys i gael eu hystyried ar gyfer BAFTA, a gallen nhw gael eu cynnwys yn awtomatig gan y gwneuthurwyr ffilmiau.

Bydd yr holl ffilmiau ar restr fer Gorau ym Mhrydain 2023 yn cael eu darlledu ar Film4 ac yn cael eu ffrydio ar eu gwasanaeth ffrydio ar-lein, All4, fel rhan o gefnogaeth barhaus Film4 i’r ŵyl.

Mae’r ŵyl hefyd wedi cadarnhau categori newydd ar gyfer eleni, Gwobr Iris Perfformiad Prydeinig Gorau y Tu Hwnt i’r Deuaidd, sy’n cael ei chefnogi gan Out & Proud.

‘Amser cyffrous’

“Dyma amser cyffrous o’r flwyddyn i mi’n bersonol, a’r tîm ehangach Iris, pan fyddwn yn gwneud yr alwad am gyflwyniadau, yn ystod un o fisoedd tywyllaf a mwyaf diflas y flwyddyn yn aml,” meddai Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Gwobr Iris.

“Bob blwyddyn rydym yn adeiladu ar lwyddiant y flwyddyn flaenorol, ac eleni rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn yn dyfarnu gwobr newydd am y Perfformiad Prydeinig Gorau y Tu Hwnt i’r Deuaidd.

“Mae’r wobr hon yn ymuno â’r ddwy wobr berfformio newydd a gyflwynwyd y llynedd, diolch i nawdd Out & Proud.

“Bydd cael gwobr berfformio arall, gobeithio, yn annog mwy o actorion i ymuno â llu gyfarwyddwyr, cynhyrchwyr, ac awduron sy’n mynychu’r ŵyl bob mis Hydref.”

Ymestyn cefnogaeth Out & Proud

“Yn 2022, roedd Out & Proud yn falch iawn o noddi Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris am y tro cyntaf,” meddai William Rutter o Out & Proud.

“Eleni rydym wedi ymestyn ein cefnogaeth hyd yn oed ymhellach drwy noddi hyd yn oed mwy o wobrau ac felly, yn 2023, edrychwn ymlaen yn frwdfrydig at gefnogi perfformwyr a gwneuthurwyr ffilm LHDTQ+ ledled y byd.

“Trwy ein nawdd ein nod yw helpu adnabod a gwobrwyo’r ymdrechion rhyfeddol sydd wedi mynd mewn i gynhyrchu ffilmiau nid yn unig a wnaed gan y gymuned LHDTQ+ ond hefyd adrodd straeon LHDTQ+.

“Mae’r App Out & Proud yn ganllaw a chyfeirlyfr cymorth amser go iawn i’r gymuned LHDTQ+ ac i ni sy’n gweithio ochr yn ochr ag Iris nid yw’n unig yn ymddangos yn bartneriaeth naturiol ond yn un berffaith hefyd.”

Y gwobrau

Bydd Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris yn cyflwyno 14 o wobrau yn y categorïau canlynol:

  • Gwobr Iris – y wobr am ffilmiau byrion LHDTQ+ fwyaf y byd a gefnogir gan Sefydliad Michael Bishop
  • Gwobr Iris Ffilm Fer Gorau Ym Mhrydain a noddir gan Film4 a Pinewood Studios
  • Gwobr Iris Perfformiad Prydeinig Gorau mewn Rôl Fenywaidd a noddir gan Out & Proud
  • Gwobr Iris Perfformiad Prydeinig Gorau mewn Rôl Wrywaidd a noddir gan Out & Proud
  • Gwobr Iris Perfformiad Prydeinig Gorau y Tu Hwnt i’r Deuaidd a noddir gan Out & Proud
  • Gwobr Iris y Ffilm Nodwedd Orau, a noddir gan Bad Wolf
  • Perfformiad Gorau mewn Rôl Fenywaidd mewn ffilm nodwedd, a noddir gan DIVA Magazine
  • Perfformiad Gorau mewn Rôl Wrywaidd mewn ffilm nodwedd, a noddir gan Attitude Magazine
  • Perfformiad Gorau y Tu Hwnt i’r Deuaidd mewn ffilm nodwedd, a noddir gan Peccadillo Pictures
  • Gwobr y Rheithgor Ieuenctid a noddir gan Brifysgol Caerdydd
  • Gwobr Gymunedol a noddir gan Mark Williams er cof am Rose Taylor
  • Gwobr Addysg a noddir gan Mark Williams er cof am Rose Taylor
  • Gwobr Ffilm Fer Micro a noddir gan Mark Williams er cof am Rose Taylor
  • Gwobr Cynulleidfa’r Co-op Gwobr Iris