Bydd tua 40 o ddarnau celf yn mynd ar ocsiwn ddiwedd yr wythnos er mwyn hel arian at Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd.

Ymhlith y darnau fydd yn cael eu gwerthu ym Mhlas Glyn-y-Weddw yn Llanbedrog nos Wener (Ionawr 20) mae gwaith gan Catrin Williams, Carys Bryn, Luned Rhys Parri, Lisa Eurgain, ac Ogwyn Davies.

Fe fydd holl elw’r noson yn mynd tuag at gronfa Celfyddydau Gweledol Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd, a bydd cyfle i flasu jin gan gynhyrchwyr lleol a mwynhau ambell gân gan Gôr Meibion Carnguwch.

Mae sawl un o’r darnau’n gysylltiedig â Llŷn neu Eifionydd, neu wedi cael eu gwneud gan artistiaid o ardal Eisteddfod Genedlaethol 2023.

Llŷn yn ysbrydoli

Un sydd â gwaith ar werth yn yr ocsiwn yw Wini Jones Lewis, yr artist o Fynydd Nefyn, sef darn o’i chyfres ‘Cefn Gwlad’ gydag amcanbris o £950.

“Dw i wedi rhoi un o’r lluniau dw i wedi’u gwneud, un o’r olygfa o faes yr Eisteddfod ym Moduan,” meddai.

“Tirwedd fy nghartref a Thre Ceiri sydd yn y darn, a’r olygfa mewn cyfrwng cymysg o’r dirwedd sydd i weld o [lle fydd] maes yr Eisteddfod.

“Dw i wedi siarad efo’r bobol sy’n byw yn uwch i fyny hefyd, a dw i eisiau mynd yn ôl yna pan fydd tywydd wedi gwella.

“Mae Pen Llŷn yn bendant yn mynd a’m mryd, ac unrhyw lôn igam ogam mewn tirwedd wledig.

“Fydda i wedi gwneud darluniau newydd ar gyfer yr Eisteddfod hefyd, gan obeithio fy mod i’n llwyddo i gael stondin ac yn gwerthu pethau yno.”

  • Bydd yr ocsiwn yn cael ei chynnal ar-lein hefyd, a gall unrhyw un sydd methu mynychu’r ocsiwn wneud cynnig dros e-bost i post@oriel.org.uk cyn 6yh nos Wener.