Mae S4C wedi llwyddo i gynyddu’r gyfran o wylwyr iau, sydd yn “gamp enfawr mewn byd darlledu cystadleuol ac sy’n newid yn gyflym”, meddai’r sianel.
Er bod darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig wedi symud yn gyflym i ymateb i’r “newid seismig” mewn arferion gwylio’r gynulleidfaoedd iau ar draws niferoedd o lwyfannau ffrydio, “mae cadw a thyfu’r ddemograffeg hon wedi bod yn heriol”, yn ôl S4C.
Mae’r data gafodd ei gasglu gan y sianel dros y naw mis diwethaf yn datgelu bod y gyfran wylio ymhlith cynulleidfaoedd iau, 16 i 44 oed, yn uwch nag y bu ers 2008.
Mae’r sianel hefyd wedi gweld cynnydd o 35% yn eu ffigyrau gwylio llinol, ac dal i fyny yn ystod yr oriau brig ar gyfer y grwp oedran 16-44 ar gyfer 2022-23 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Mae’r ffigurau diweddaraf hefyd yn datgelu cynnydd o 20% o flwyddyn i flwyddyn o 2021-22 yn nifer y gwylwyr sy’n dewis gwylio’u hoff raglenni oriau brig ar lwyfannau ar alw fel S4C Clic ac iPlayer.
“Sawl rheswm” am y llwyddiant
Yn ôl Prif Weithredwr S4C Siân Doyle, mae sawl rheswm dros y llwyddiannau hyn.
“Dyw hi ddim wedi bod yn hawdd i gyrraedd y pwynt yma ac yn sicr, dim ond dechrau taith hir yw hyn. Mae darparu rhaglenni o ansawdd uchel yn amlwg yn ganolog i bopeth rydym yn gwneud,” meddai.
“Ond yn sail i hyn, ac efallai hyd yn oed yn bwysicach, mae deall anghenion ein cynulleidfaoedd a gwneud yn siŵr eu bod yn gallu gwylio eu hoff raglenni ar amser, mewn lle ac ar lwyfan sydd fwyaf addas iddyn nhw.
“Yn y byd modern, prysur yr ydym yn byw ynddo, mae’r hyblygrwydd yma’n bwysig.
“Mae bod â’r ymwybyddiaeth o’r amgylchedd yr ydym yn gweithio ynddo a bod yn barod i symud gyda’n cynulleidfa, yn caniatáu i ni ganolbwyntio ar y gwaith craidd o wneud a chomisiynu rhaglenni.
“Rydym yn ffodus iawn yng Nghymru i gael sector creadigol mor gryf.
“Yn S4C, rydym yn hynod o falch o’r berthynas sydd gennym ni gyda’n partneriaid a’r cwmnïau cynhyrchu annibynnol sy’n cynhyrchu gymaint o’r cynnwys rhagorol y gallwn ei rannu gyda’n gwylwyr.
“Ac mewn gwirionedd, y cynnwys newydd yma sy’n gyrru ffigyrau gwylio cadarnhaol rydyn ni’n eu gweld nawr.
“Mae ein ffigyrau gwylio dros gyfnod y Nadolig yn cefnogi hyn gyda rhaglenni sydd newydd eu comisiynu fel Gogglebocs Cymru a chyfresi newydd o Gwesty Aduniad ac Yr Amgueddfa yn dychwelyd yn denu cynulleidfaoedd uwch nag erioed.
“Wrth edrych yn ôl dros 2022, byddai’n anodd peidio â sôn am ymddangosiad cyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd pêl-droed ers 64 mlynedd a’n rhan ni fel darlledwr yn dilyn Cymru ar eu taith epig i gyrraedd yno.
“Denodd ein darllediadau o gemau Cymru yn Qatar y niferoedd uchaf erioed i’r sianel a chreodd feel good factor da a momentwm yr oeddem yn benderfynol o gyffwrdd ynddo.
“Fe wnaeth tîm S4C gweithio’n galed tu hwnt i wneud i hyn digwydd – ac mae llu o bethau cadarnhaol wedi deillio o’i hymdrechion nhw.
“Ac er ei bod pob amser yn braf gallu gwneud sylwadau ar newyddion cadarnhaol, gwyddom na allwn orffwys.
“Heb os, bydd y Flwyddyn Newydd yn dod â heriau newydd ond cyn belled â’n bod yn parhau i symud ymlaen gyda’n cynulleidfaoedd, gobeithio dylem ni fod ar y trywydd iawn.”