Mae barnwr yn y Goruchaf Lys yng Nghatalwnia sy’n gyfrifol am achos arweinwyr alltud yr ymgyrch tros annibyniaeth yn 2017 wedi dileu’r cyhuddiadau o annog gwrthryfel, ond byddan nhw’n dal i wynebu cyhuddiadau o gamddefnyddio arian cyhoeddus ac anufudd-dod.
Gall y drosedd o gamddefnyddio arian cyhoeddus arwain at garchar o chwe mis i bum mlynedd, ond mae anufudd-dod yn drosedd lai difrifol.
Roedd Carles Puigdemont, cyn-arlywydd Catalwnia, ac arweinwyr eraill yn wynebu cyhuddiadau o annog gwrthryfel, fel y bu Toni Comín, Clara Ponsatí, Lluís Puig a Marta Rovira yn y gorffennol.
Cafodd Oriol Junqueras, dirprwy arlywydd Catalwnia adeg y refferendwm yn 2017, ei garcharu am 13 o flynyddoedd, ond dydy Puigdemont ddim yn wynebu dedfryd mor llym o ganlyniad i’r newid yn y gyfraith.
Bydd y drosedd o annhrefn cyhoeddus ymosodol yn disodli annog gwrthryfel, ond fydd y rhai oedd â rhan yn refferendwm 2017 ddim yn wynebu’r cyhuddiad hwn, yn ôl y Goruchaf Lys.
Yn sgil y newid, gall Clara Ponsatí a Marta Rovira ddychwelyd i Gatalwnia heb wynebu cyhuddiadau pellach, ar ôl byw’n alltud ers rhai blynyddoedd.
Ond er gwaetha’r newid, mae’r barnwr yn dadlau bod eu troseddau yr un mor ddifrifol er na fyddan nhw’n cael eu cosbi mor llym.
Dywed y bydden nhw’n cael dedfryd o garchar am oes yn yr Almaen neu Ffrainc, o leiaf 12 mlynedd dan glo yn yr Eidal, a 20 i 30 mlynedd o garchar yng Ngwlad Belg.
Fe fu sawl ymgais aflwyddiannus i estraddodi Carles Puigdemont o’r Almaen a Gwlad Belg.