Mae Beca Roberts wedi cyflwyno’i henw i fod yn ymgeisydd Plaid Cymru i fod yn Aelod Seneddol nesaf Arfon, gan ddweud ei bod hi’n sefyll dros ieuenctid yr etholaeth.

Mae’n dweud ei bod hi’n “bwysig bod yr ifanc yn pleidleisio a bod rhywun yn eu cynrychioli nhw fel Aelod Seneddol”.

Beca Roberts yw cynghorydd ardal Tregarth, ac mae wedi cyflwyno’i henw i geisio olynu Hywel Williams, Aelod Seneddol yr etholaeth, sydd wedi penderfynu peidio sefyll eto, yn rhannol oherwydd ymrwymiadau teuluol.

Mae hi’n ieuengach na llawer o bobol mewn gwleidyddiaeth, ac yn teimlo bod angen y gwaed newydd yma yn y byd gwleidyddol er mwyn gwneud gwahaniaeth.

Teimla ei bod yn bwysig fod pobol ifanc yn pleidleisio, a bod rhywun mewn gwleidyddiaeth i’w cynrychioli nhw.

“Rwy’n ifanc i gymharu â llawer o bobol sydd mewn gwleidyddiaeth,” meddai wrth golwg360.

“Mae Cyngor Gwynedd newydd gael gang newydd o gynghorwyr ifainc, ac mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth mawr iawn, rwy’n meddwl.

“Mae’n cael pobol ifanc yn yr ystafell yn dod â viewpoint hollol, hollol newydd i’r drafodaeth, mae hynny’n rhan o pam rydw i yn sefyll.

“Mae pobol ifanc yn haeddu llais hefyd.

“Rwy’n meddwl bod pobol ifanc yn gallu bod yn bencampwyr i gynhwysiant.

“Rwy’n advocate i gael mwy o amrywiaeth ym Mhlaid Cymru.

“Rwy’n ferch wen ifanc.

“Dwi ddim yn massively diverse, ond rwy’n gobeithio bod hwn yn gam yn y cyfeiriad cywir a bod Plaid Cymru yn bencampwyr ar gyfer cynhwysiant.

“Mae’n bwysig bod yr ifainc yn pleidleisio a bod rhywun yn eu cynrychioli nhw fel aelod seneddol.

“Dwi ddim yn meddwl mai fi sydd yn gorfod bod y person yna, ond mae’n bwysig bod pobol yn defnyddio’u democratic right nhw i bleidleisio.

“Rwy’ eisiau i fwy o bobol ifanc fynd allan a gwneud hynny.”

‘Brain drain’

Mater sy’n poeni Beca Roberts yn fawr yw fod pobol ifanc yn gadael gogledd Cymru am resymau economaidd, gan fod hyn yn cael effaith fawr ar y gymuned a’r iaith.

“Rwy’ hefyd yn meddwl lot am y brain drain,” meddai.

“Mae pobol ifanc yn gadael gogledd Cymru wedi bod yn broblem ers degawdau.

“Rwy’n meddwl mai’r rhesymau yw, un, dydy pobol ifanc methu ffeindio rhywle i fyw yn eu hardal.

“Hefyd, dydyn nhw ddim yn gallu ffeindio swyddi sy’n eu siwtio, neu sy’n challenging, neu swyddi creadigol, neu swyddi mwy atyniadol, bod rheini ddim yn bodoli yma.

“Mae pobol ifanc yn gadael gogledd Cymru ac mae hynny’n cael effaith mawr ar yr iaith a chymunedau.”

Yr argyfwng hinsawdd

Mae Beca Roberts yn poeni’n ofnadwy hefyd am yr argyfwng hinsawdd.

Yn ei barn hi, dydy San Steffan ddim yn ei gymryd o ddifri, ond mae angen ei roi flaen yr agenda.

Mae’n credu bod yr ateb i’w gael ar lefel gymunedol.

“Rwy’n sefyll dros yr elfen yna o edrych ar yr argyfwng hinsawdd,” meddai wedyn.

“Mae’r argyfwng hinsawdd yn rhywbeth difrifol iawn.

“Dw i ddim yn teimlo bod San Steffan yn ei gymryd mor o ddifri â be’ ddylian nhw.

“Rwy’ eisiau mynd ati i wneud yn saff bod pobol yn deall hynny.

“Rwy’ wir yn meddwl bod gweithredu ar lefel cymuned, neu fudiadau ynni cymunedol yn enwedig, yn dod â gymaint o fudd i gymunedau ac maen nhw hefyd yn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

“Rwy’n gefnogol ofnadwy o roi’r amgylchedd a’r argyfwng hinsawdd ar flaen yr agenda.”

Y trydydd sector a’r sector cyhoeddus

A hithau wedi bod yn gweithio i’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus ers gadael y brifysgol, mae Beca Roberts yn gweld yr effaith fawr mae’r ddwy sector hyn yn ei chael ar unigolion a’r gymdeithas.

Teimla nad yw San Steffan yn cefnogi’r ddwy sector yma, ac nad yw’r bobol sy’n gweithio ynddyn nhw’n cael eu gwerthfawrogi, ac nad yw’r gymdeithas oherwydd y diffyg cefnogaeth yn cael y gorau allan ohonyn nhw.

Am y rhesymau yma, mae hi am fod yn llais i’r mudiadau a’r bobol sy’n cael eu heffeithio.

“Rwy’ wedi bod yn gweithio yn y trydydd sector a’r sector gyhoeddus ers gadael prifysgol,” meddai.

“O beth rwy’ wedi’i weld, mae’r stori yn y cyfnod yma, yn y saith mlynedd dwytha’, dau sector sydd yn gwneud pethau anhygoel ac yn cefnogi cymunedau, ond dydy’r llywodraeth yn San Steffan ddim yn eu cefnogi nhw.

“Mae hynny yn golygu fod y cymunedau ddim yn cael y mwyaf allan o’r mudiadau yma.

“Dydy pobol ddim yn cael eu gwerthfawrogi yn y ffordd ddylen nhw, y bobol sy’n gweithio yn y mudiadau yma.

“Hefyd, mae wedi bod yn 12 mlynedd o doriadau yn San Steffan.

“Mae wedi bod yn gyfnod ofnadwy o stressful a chymhleth.

“Rwy’n meddwl bod llawer o bobol ifanc yn teimlo’n disenfranchised ar y funud.

“Roeddwn wedi cael digon o eistedd yn ôl, digon o bobol rwy’n gweithio efo a fy ffrindiau yn cael eu underappreciate-io a ddim yn cael eu talu digon, fod polisïau ac yn y blaen ddim yn cefnogi pethau da.

“Rwy’n meddwl fy mod wedi gweld digon o’r sectorau yna, ac rwy’n gwybod sut mae pobol yn teimlo.

“Rwy’ eisiau rhoi llais i’r bobol yna, rhoi llais i’r mudiadau.”

Llywodraeth San Steffan ar lawr gwlad

Er nad yw Beca Roberts yn teimlo bod y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud yn San Steffan wastad yn bositif. mae hi’n teimlo bod effaith y penderfyniadau yn enfawr ar bobol a chymunedau o fewn Arfon.

Teimla ei bod yn hollolbwysig fod llais cryf i gynrychioli pobol Arfon yn San Steffan, a bod pobol yn pleidleisio dros hyn.

Teimla fod y ffaith fod Hywel Williams yn siarad am sefyllfa trafnidiaeth gyhoeddus yn Arfon yn bwysig ar lefel gymdeithasol ac amgylcheddol.

“Mae beth sydd yn digwydd yn San Steffan yn bwysig ar lawr gwlad, mae’n effeithio ar bob dim amdanom ni,” meddai.

“Mae’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud yn San Steffan yn effeithio ar bawb.

“Mae’r person sy’n siarad ar ran Arfon yn San Steffan efo swydd ofnadwy o bwysig i wneud yn siŵr bod y pethau yma, sy’n effeithio ar bawb, fod lleisiau pobol Arfon yn cael eu clywed pan mae penderfyniadau mawr yn cael eu gwneud.

“Mae Hywel Williams wedi bod yn siarad am y trenau yng ngogledd Cymru.

“Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn ofnadwy o bwysig yn y stori amgylcheddol.

“Os does yna ddim trafnidiaeth gyhoeddus dda, mae pobol yn gallu teimlo’n unig ac maen nhw hefyd yn gorfod dreifio ceir sydd ddim yn dda i’r amgylchedd.

“Mae hwnna’n tangible ac yn effeithio ar bawb.

“Dw i ddim yn gallu understate-io bod yr hyn sydd yn digwydd yn San Steffan yn effeithio arnyn nhw yn bositif neu negyddol.

“Mae rôl yr Aelod Seneddol yn hynod o bwysig.

“Rhywbeth rwy’n teimlo sy’n ofnadwy o bwysig yw ysgogi mwy o bobol a phawb i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth.

“Rwy’n meddwl bod llawer o bobol yn disenfrachised ac yn teimlo fel eu bod nhw wedi cael eu gadael i lawr gan wleidyddion a gwleidyddiaeth.

“Rwy’ eisiau dangos i bobol fod gwleidyddion yn gallu bod yn bobol dda sydd eisiau eu cefnogi nhw a bod yn llais iddyn nhw, a helpu pobol i sylweddoli bod gwleidyddiaeth yn gallu newid eu bywydau nhw hefyd.”

Olynu Hywel Williams?

Er bod Beca Roberts yn teimlo bod Hywel Williams wedi gwneud gwaith egwyddorol ardderchog, mae hi’n teimlo y byddai’r ymgeisydd seneddol nesaf, pe bai’n cael ei (h)ethol, yn cael cefnogaeth gwleidyddion eraill o fewn y blaid ac y bydd hyn yn eu helpu nhw i wneud y swydd.

“Dw i ddim yn meddwl y bydd o’n anodd i’r person sy’n sefyll ar ôl Hywel Williams,” meddai.

“Mae Hywel Williams wedi bod yn bencampwr i bobol Arfon.

“Mae o efo egwyddorion da, ac mae o’n gwrando ar bobol.

“Pan rwy’n edrych ar voting record Hywel, mae o’n cyd-fynd efo beth rwy’n teimlo.

“Mae o’n berson efo llawer o egwyddorion, ac mae o’n gweithio’n ofnadwy o galed.

“Mae o’n sgidiau mawr i’w llenwi ond bydd y person nesaf yn dod â rhywbeth newydd, a hefyd yn cael cefnogaeth gan Hywel Williams, Siân Gwenllian a Liz Saville [Roberts] ac yn y blaen.”

“Rwy’n sicr y bydd Hywel Williams yn gallu cefnogi’r person yna hefyd.”