Mae Heledd Fychan, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganol De Cymru, yn dweud ei bod hi’n “poeni’n fawr” am y llifogydd diweddaraf yn Rhondda Cynon Taf.

Ardaloedd Pontypridd a’r Porth sydd wedi’u heffeithio fwyaf gan y llifogydd, sy’n dilyn cyfnod o law trwm ar draws y de sydd hefyd wedi taro ardal Casnewydd yn y de-ddwyrain.

Mae gwasanaethau trenau ar draws y cymoedd wedi’u heffeithio hefyd, gan achosi cryn oedi i deithwyr.

Mae rhybudd melyn mewn grym mewn 16 o siroedd yng Nghymru, ac yn dod i ben am 5 o’r gloch (dydd Iau, Ionawr 12).

Ymhlith y busnesau yn Rhondda Cynon Taf sydd wedi’u taro mae Clwb y Bont ym Mhontypridd.

‘Tywydd garw’n anochel, ond does dim rhaid i lifogydd fod’

“Dw i’n poeni’n fawr am gartrefi a busnesau ledled Canol De Cymru a thu hwnt,” meddai Heledd Fychan.

“All pobol ddim parhau i fyw mewn ofn bob tro gawn ni law trwm.

“Mae’r tywydd garw hwn yn anochel, ond does dim rhaid i lifogydd fod.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i gynllunio ar gyfer y glaw trwm, ac annog ein cynghorau, fel Rhondda Cynon Taf, i ddeall yn well sut i osgoi llifogydd a chefnogi cymunedau.

“Dro ar ôl tro, fe wnaeth Llywodraeth Cymru wrthod cynnal ymchwiliad annibynnol i’r llifogydd dinistriol yn 2020.

“Mae Plaid Cymru wedi sicrhau adolygiad, a byddaf yn cyflwyno tystiolaeth gan gymunedau ledled Canol De Cymru yn ddiweddarach eleni, ond dylid bod wedi cynnal y gwaith hwn ar unwaith ar ôl Chwefror 2020.

“Rhaid dysgu gwersi ar frys.

“Byddaf yn parhau i fonitro’r sefyllfa’n agos, a gweithio’n ddiflino i sicrhau bod ein cymuned yn derbyn y gefnogaeth a chymorth sydd ei angen arni yn ystod yr adeg anodd hon.”

Dylai unrhyw un sy’n cael eu heffeithio gan y llifogydd gysylltu â swyddfa Heledd Fychan, a gall trigolion ffonio 01443 853214, meddai.