Mae bron i 1,500 o bobol wedi llofnodi deiseb yn galw am ddiogelu canolfannau hamdden a phyllau nofio rhag gorfod cau yn ystod yr argyfwng ynni presennol.
Mae pyllau nofio a chanolfannau hamdden dan fygythiad wrth i’r argyfwng ynni effeithio ar gymunedau ledled y wlad, gyda chynghorau’n gorfod gwneud toriadau.
Mae’r cyfleusterau hyn yn darparu gwasanaeth hanfodol i bobol Cymru ac maen nhw’n hanfodol i lesiant pobol, meddai’r ddeiseb.
Mae’r bobol sydd wedi llofnodi’r ddeiseb yn galw ar y Senedd a Llywodraeth Cymru i gydnabod pa mor fregus yw sefyllfa pyllau nofio drwy ddarparu pecyn o gymorth ariannol wedi’i neilltuo y tu hwnt i’r Setliad Terfynol ar gyfer Llywodraeth Leol, i sicrhau bod pyllau nofio’n gallu aros ar agor.
Mae 40% o ardaloedd mewn perygl o golli eu canolfannau hamdden, neu o weld llai o wasanaethau yn eu canolfannau hamdden cyn Mawrth 31.
Mae gwasanaethau mewn 74% o ardaloedd yn “anniogel”, sy’n golygu bod perygl y bydd canolfannau hamdden yn cau a/neu yn cynnig llai o wasanaethau erbyn Mawrth 31 y flwyddyn nesaf, yn ôl ymchwil.
Mae modd llofnodi’r ddeiseb tan Chwefror 28, cyn y bydd yn cael ei ystyried ar ôl denu digon o lofnodion.