Mae 72% o ddarllenwyr golwg360 atebodd ein pôl piniwn yn dweud mai Ben Davies fyddai eu dewis nhw i fod yn gapten nesaf tîm pêl-droed Cymru.

Cyhoeddodd Gareth Bale, y capten diweddaraf, ei ymddeoliad o’r byd pêl-droed yr wythnos hon, gan ddweud mewn datganiad mai hwn oedd “penderfyniad mwyaf anodd” ei fywyd.

Daeth ei yrfa ryngwladol gyda Chymru i ben ac yntau wedi sgorio 41 o goliau mewn 111 o gemau dros ei wlad – does neb wedi sgorio mwy nac wedi ennill mwy o gapiau.

Daeth ei ymddeoliad yn dilyn ymgyrch siomedig Cymru yng Nghwpan y Byd, ac yntau hefyd wedi bod yn aelod o’r garfan mewn dwy gystadleuaeth Ewro, yn 2016 a 2020.

Enillodd Ben Davies, amddiffynnwr Spurs, 72.2% o’r pleidleisiau, tra bod Aaron Ramsey wedi ennill dim ond 12.7%, gyda dewisiadau eraill yn ennill 15.1% o bleidleisiau.

Ar hyn o bryd, gyda’r garfan yn heneiddio, dydy hi ddim yn glir am ba hyd fydd chwaraewyr fel Ramsey a Joe Allen yn parhau i chwarae ar y llwyfan rhyngwladol, felly mae’n bosib y gallai Rob Page droi at rywun fel Ben Davies, gyda Joe Rodon yn enw arall sydd wedi’i grybwyll o blith y chwaraewyr iau.

Gyrfa

Dechreuodd Gareth Bale ei yrfa yn Southampton, cyn symud i Spurs yn 2007.

Daeth i sylw’r byd ehangach pan symudodd i Real Madrid am £85m yn 2013, ond symudodd i Los Angeles haf diwethaf ar ôl cyfnod cythryblus yn Sbaen, er ei fod e wedi mynd yno ar ôl ennill gwobr Chwaraewr y Flwyddyn a Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn Uwch Gynghrair Lloegr.

Enillodd e 18 o dlysau yn ystod ei yrfa, ac roedd yn Chwaraewr y Flwyddyn yng Nghymru bob blwyddyn rhwng 2010 a 2016.

“Mae bod yn ffodus o fod yn Gymro a chael fy newis a chael bod yn gapten ar Gymru wedi rhoi rhywbeth i fi nad oes modd ei gymharu ag unrhyw beth arall dw i wedi’i brofi,” meddai.

“Mae’n anrhydedd a dw i’n ostyngedig o fod wedi chwarae rhan yn hanes y wlad anhygoel hon, o fod wedi teimlo cefnogaeth ac angerdd y Wal Goch, a bod i lefydd annisgwyl ac anhygoel gyda’n gilydd.

“Fe wnes i rannu ystafell newid gyda bois ddaeth yn frodyr, a staff cynorthwyol ddaeth yn deulu, chwaraeais i â’r rheolwyr mwyaf rhyfeddol, a theimlo cefnogaeth a chariad diflino’r cefnogwyr mwyaf ymroddedig yn y byd.

“Diolch i bob un ohonoch chi am fod ar y daith hon gyda fi.

“Felly am y tro, dw i’n camu’n ôl, ond nid i ffwrdd o’r tîm sy’n byw ynof fi ac sy’n rhedeg trwy fy ngwythiennau.

“Wedi’r cyfan, y ddraig ar fy nghrys yw’r cyfan sydd ei angen arna i.

“Gyda’n gilydd yn gryfach. Diolch.”