Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi diswyddo’u rheolwr Mark Hudson.

Daw hyn ar ôl gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Wigan, sy’n eu gadael nhw’n 21ain yn y Bencampwriaeth.

Mae’r clwb wedi diolch iddo am ei waith, gan ddweud y byddan nhw’n chwilio am olynydd iddo ar unwaith.

Yn y cyfamser, mae Dean Whitehead wedi’i benodi’n reolwr dros dro, ac fe fydd yn cael ei gynorthwyo gan Tom Ramasut a Graham Stack.