Cafodd Mark Williams o Went siom yn rownd derfynol y Meistri neithiwr (nos Sul, Ionawr 15), wrth iddo golli o 10-8 yn erbyn y Sais Judd Trump.

Ar ddiwedd yr ornest, mynnodd Trump mai dyma’i berfformiad “gorau erioed” wrth ennill y tlws am yr eildro.

Sgoriodd e 126 i gipio’r ffrâm dyngedfennol a’r tlws am y tro cyntaf ers 2019, a hynny ar ôl bod ar ei hôl hi o 7-6 ac 8-7 yn yr ornest.

Cyfaddefodd Trump wrth y BBC ar ddiwedd yr ornest fod Williams wedi chwarae’n well nag e drwy gydol y gêm, a bod gallu’r Cymro i suddo’r peli o bell “yn anghredadwy”.

“Fe wnaeth e fy rhoi i dan gymaint o bwysau,” meddai.

Collodd Mark Williams, sy’n 47 oed, y cyfle i fod yr enillydd hynaf erioed yn y Meistri.

Dydy’r Cymro ddim wedi ennill y tlws ers ugain mlynedd, a daeth yr ornest hon bron i chwarter canrif ers ei fuddugoliaeth fawr dros yr Albanwr Stephen Hendry.

Sgoriodd Williams 80 a 52 i unioni’r sgôr, 6-6, ar yr egwyl ganol y sesiwn cyn mynd ar y blaen o 7-6.

Roedden nhw’n gyfartal unwaith eto, 7-7, ar ôl ffrâm barodd bron i awr, a sgoriodd Williams 107 yn y ffrâm ganlynol cyn eu bod nhw’n gyfartal unwaith eto, 8-8.