Mae Eddie Jones, cyn-brif hyfforddwr tîm rygbi Lloegr, wedi’i benodi’n brif hyfforddwr Awstralia ar drothwy Cwpan y Byd, lle byddan nhw’n herio Cymru yn eu grŵp.

Mae Jones yn olynu Dave Rennie – sydd wedi’i ddiswyddo ar ôl dim ond pum buddugoliaeth mewn 14 o gemau – ac yn dychwelyd i hyfforddi ei famwlad ar ôl bod wrth y llyw yno rhwng 2001 a 2005.

Mae e wedi llofnodi cytundeb tan 2027, lai na mis ar ôl cael ei ddiswyddo gan Loegr ar ôl saith mlynedd yn y swydd, ac mae lle i gredu bod y trafodaethau wedi dechrau’n fuan iawn ar ôl colli ei swydd yn Lloegr.

Yn rhan o’r swydd, fe fydd e hefyd yn gyfrifol am oruchwylio tîm cenedlaethol y merched.

Bydd ei gytundeb newydd, fydd yn dechrau ddiwedd y mis hwn, yn cwmpasu dau Gwpan Byd a thaith y Llewod i Awstralia yn 2025 hefyd.

Mae’r penodiad yn golygu bod Cymru, Lloegr ac Awstralia i gyd wedi penodi prif hyfforddwyr newydd ar drothwy’r gystadleuaeth, gyda Chymru’n penodi Warren Gatland a Steve Borthwick yn olynu Eddie Jones yn Twickenham.

Gallai Cymru neu Awstralia orfod herio Lloegr yn rownd wyth ola’r gystadleuaeth.

Yn brif hyfforddwr ar Loegr, enillodd y Saeson y Gamp Lawn yn 2016 cyn cyrraedd rownd derfynol Cwpan y Byd yn 2019.

Ond cawson nhw 2022 hynod siomedig, gan ennill dim ond pum gêm yn ystod y flwyddyn.