Ken Owens fydd yn gapten ar dîm rygbi Cymru yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Mae Warren Gatland wedi enwi carfan o 37 chwaraewr ar gyfer y bencampwriaeth, gan gynnwys Liam Williams, Dewi Lake, a Wyn Jones sydd yn dychwelyd ar ôl methu gemau’r hydref yn sgil anafiadau.
Mae Leon Brown, Rhys Carré, Rhys Patchell, Aaron Wainwright, Rhys Webb ac Owen Williams wedi’u galw’n ôl i’r garfan hefyd.
Mae pedwar o chwaraewyr sydd heb ennill capiau eto wedi cael eu henwi, sef Rhys Williams a Keiran Williams o dîm y Gweilch, a Mason Grady a Teddy Williams sy’n chwarae i Rygbi Caerdydd.
“Mae’n debyg ei bod hi’n garfan fwy na fyswn i’n arfer ei henwi, ond rydyn ni eisiau cael Chwe Gwlad dda ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gwpan y byd,” meddai Warren Gatland.
Dywed hefyd fod y garfan yn cynnwys chwaraewyr ifanc a rhai hŷn a phrofiadol, ond mai ceisio dod o hyd i gydbwysedd fydd yr her dros y deng mis nesaf.
“Mae Ken yn brofiadol iawn ac yn Gymro angerddol – mae chwarae i Gymru’n golygu lot iddo,” meddai’r prif hyfforddwr wrth gyfeirio at y capten newydd.
“Hefyd, mae e’n boblogaidd iawn gyda’r chwaraewyr.
“Daeth yn ôl ar ôl anaf ac roedd e’n gwbl ardderchog yn ystod cyfres yr hydref.
“Mae’n debyg, os ydych chi’n dewis tîm ar y funud mai fe yw’r dewis cyntaf ar gyfer y safle hwnnw.
“Ond bydd cystadleuaeth rhyngddo fe a Dewi [Lake] a Bradley [Roberts] hefyd, fydd yn wych.”
Bydd y garfan yn cyfarfod ddydd Llun nesaf (Ionawr 23) cyn eu gêm gyntaf yn erbyn Iwerddon yn Stadiwm Principality ar Chwefror 4.
Penodi Jonathan Thomas
Yn y cyfamser, mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau mai Jonathan Thomas, cyn-brif hyfforddwr y Worcester Warriors, fydd aelod arall tîm hyfforddi carfan y dynion.
Enillodd 67 o gapiau i Gymru rhwng 2003 a 2011, a fe fydd â’r cyfrifoldeb dros ardal y dacl.
“Dw i wrth fy modd, ac mae’n fraint cael bod yn rhan o’r tîm hyfforddi,” meddai.
“Fel Cymro angerddol, fy mreuddwyd ac uchelgais wrth dyfu i fyny oedd chwarae i Gymru.
“Ers rhoi’r gorau i chwarae a mynd i hyfforddi, fy uchelgais oedd bod yn rhan o dîm hyfforddi rhyngwladol.
“Bod yn llwyddiannus ac ysbrydoli’n gwlad wych sy’n bwysig, a dw i’n awyddus i gefnogi a helpu i wneud gwahaniaeth i’r chwaraewyr a’r staff.”
Carfan Cymru
Blaenwyr:
Rhys Carre (Rygbi Caerdydd), Wyn Jones (Scarlets), Gareth Thomas (Gweilch), Dewi Lake (Gweilch), Ken Owens (Scarlets, capten), Bradley Roberts (Dreigiau), Leon Brown (Dreigiau), Tomas Francis (Gweilch), Dillon Lewis (Rygbi Caerdydd), Adam Beard (Gweilch), Rhys Davies (Gweilch, heb gap), Dafydd Jenkins (Exeter Chiefs), Alun Wyn Jones (Gweilch), Teddy Williams (Rygbi Caerdydd, heb gap), Taulupe Faletau (Rygbi Caerdydd), Jac Morgan (Gweilch), Tommy Reffell (Leicester Tigers), Justin Tipuric (Gweilch), Christ Tshiunza (Exeter Chiefs), Aaron Wainwright (Dreigiau)
Olwyr:
Kieran Hardy (Scarlets), Rhys Webb (Gweilch), Tomos Williams (Rygbi Caerdydd), Dan Biggar (Toulon), Rhys Patchell (Scarlets), Owen Williams (Gweilch), Mason Grady (Rygbi Caerdydd, heb gap), Joe Hawkins (Gweilch), George North (Gweilch), Nick Tompkins (Saracens), Keiran Williams (Gweilch, heb gap), Josh Adams (Rygbi Caerdydd), Alex Cuthbert (Gweilch), Rio Dyer (Dreigiau), Leigh Halfpenny (Scarlets), Louis Rees-Zammit (Caerloyw), Liam Williams (Rygbi Caerdydd)