Mae Warren Gatland, prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, yn dweud ei fod e’n disgwyl i dri chwaraewyr sydd wedi’u henwi yn y garfan ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad fod yn holliach i chwarae rhyw ran yn y twrnament.
Mae’r asgellwr Louis Rees-Zammit, a’r chwaraewyr rheng flaen Leon Brown a Dillon Lewis i gyd wedi’u henwi yn y garfan 37 dyn gafodd ei chyhoeddi ddoe (dydd Mawrth, Ionawr 17), ond mae gan y tri anafiadau.
Daeth gêm ddiwethaf Gatland wrth y llyw yn erbyn ei famwlad Seland Newydd, ac Iwerddon fydd gwrthwynebwyr cyntaf Cymru yn ei ail gyfnod ar Chwefror 4.
Mae’n disgwyl i Louis Rees-Zammit fod yn holliach i wynebu Lloegr yng Nghaerdydd fis nesaf.
“Fe oedd yr un wnaethon ni ei enwi oherwydd roedden ni eisiau gallu rhoi rhywfaint o driniaeth iddo fe ac iddo fe gael gweithio gyda hyfforddwr ymosod newydd,” meddai’r prif hyfforddwr.
“Yr arwyddion yw y dylai fod yn barod ar gyfer gêm Lloegr.”
O ran Leon Brown, mae’n dweud bod y prop yn hyfforddi’n llawn unwaith eto.
“Dydy e ddim yn rhy bell i ffwrdd, p’un a fydd e’n chwarae neu’n dod i hyfforddi’n llawn gyda ni,” meddai am hwnnw.
“Mae’r rhain yn ddau chwaraewr sydd angen i ni eu cael nhw’n barod mor gyflym â phosib.
“Yr arwyddion yw y byddan nhw’n holliach ac yn barod i fynd o’r diwrnod cyntaf.”
Haneri’r Gweilch
Mae Warren Gatland hefyd wedi egluro’i benderfyniad i ddewis mewnwr a maswr y Gweilch.
Mae Rhys Webb ac Owen Williams yn y garfan ar ôl dychwelyd i’r rhanbarth yng Nghymru yn dilyn cyfnodau i ffwrdd.
“Rydyn ni wedi dewis Owen yn rhif deg,” meddai.
“Ro’n i’n meddwl bod gêm y Gweilch yn erbyn Montpellier yn gêm go iawn.
“Dyna’r lefel rydych chi eisiau i’ch timau rhanbarthol fod yn chwarae ac yn cystadlu.
“Ro’n i’n meddwl eu bod nhw braidd yn anlwcus yr wythnos gynt yn erbyn Leinster, ond fe wnaethon nhw roi eu hunain mewn sefyllfa i ennill, oedd yn galonogol.
“Ro’n i’n meddwl bod perfformiad Owen yn rhif deg yn rhagorol.
“Allech chi ddim anwybyddu’r ffordd wnaeth e chwarae, sut wnaeth e reoli’r gêm a’r profiad sydd ganddo fe – roedd yn ddewis hawdd i ni.”
Mae Rhys Webb yn un o dri mewnwr yn y garfan, ynghyd â Tomos Williams o Rygbi Caerdydd a Kieran Hardy o’r Scarlets, ac mae Gatland yn teimlo ei fod e wedi dewis y tri mewnwr gorau am gicio.
“Bydd Rhys yn dod i mewn ac yn rhoi pwysau ar y ddau fewnwr arall, a dw i’n gweld hynny fel rhywbeth positif, a bydd e’n dod â’i brofiad gyda fe.
“Mae e wedi bod yn chwarae’n dda.
“Ond gallu cicio’r tri rhif naw sy’n bwysig yn y gystadleuaeth hon.
“Mae’n rhaid i chi fod yn gywir i allu rhoi pwysau trwy eich strategaeth o ran cicio.”
“Siom” ynghylch Rob Howley
Yn y cyfamser, mae Warren Gatland wedi mynegi ei siom na fydd e’n cael ailbenodi Rob Howley, fu’n hyfforddwr cynorthwyol yn ystod ei gyfnod cyntaf wrth y llyw.
Dywed fod Howley yn haeddu maddeuant ar ôl gorfod gadael ei swydd yn 2019 am gamblo 363 o weithiau ar gemau rygbi, yn groes i reolau’r gamp.
Ond mae Undeb Rygbi Cymru wedi gwrthod ei gais i’w ailbenodi, ac mae Alex King wedi cael swydd yr hyfforddwr ymosod o dan y drefn newydd.
Yn ôl Gatland, “doedd yr amser ddim yn iawn” o safbwynt Undeb Rygbi Cymru.