Mae Carwyn Jones, cyn-Brif Weinidog Cymru, yn credu bod tîm rygbi Cymru mewn dwylo diogel gyda Warren Gatland.
Y gŵr o Seland Newydd fydd yng ngofal Cymru yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a Chwpan y Byd yn Ffrainc eleni, gyda chyfle posib wedyn i aros tan ddiwedd Cwpan y Byd 2027.
Ar hyn o bryd, mae Carwyn Jones yn cyflwyno rhaglen am rygbi o’r enw Y Gêm yn y Gwaed ar S4C, sydd ymlaen bob nos Fawrth am 9 o’r gloch.
Ac yntau wedi ymddiddori yn y gamp ar hyd ei oes, roedd yn awyddus i greu rhaglen yn edrych, nid yn unig ar hanes y gêm yng Nghymru, ond ar ochr gymdeithasol y gêm.
Yn ystod y rhaglen, mae Carwyn Jones yn cyfarfod â chwaraewyr ddoe a heddiw, cefnogwyr, haneswyr a sylwebyddion yn y gobaith o greu darlun byw rygbi yng Nghymru ar hyd y blynyddoedd.
Ymhlith y rhai sy’n cyfrannu mae’r dyfarnwr Nigel Owens, capten Cymru Ken Owens, a chyn-seren rygbi Cymru Jonathan Davies.
‘Wastad yn risg i fynd yn ôl i rywbeth’
Y newyddion mawr ym myd rygbi Cymru cyn y Nadolig oedd fod Warren Gatland yn dychwelyd i hyfforddi’r tîm cenedlaethol.
Cytunodd ei ragflaenydd Wayne Pivac i adael ei swydd gydag Undeb Rygbi Cymru ar ôl adolygiad o Gyfres yr Hydref, lle collodd Cymru dair o’u pedair gêm, gan gynnwys honno yn erbyn Georgia.
Roedd Warren Gatland yn brif hyfforddwr am ddeuddeg mlynedd rhwng 2007 a 2019, a llwyddodd i ennill y Gamp Lawn yn 2008, 2012 a 2019.
Mae Carwyn Jones o’r farn ei fod yn “beth da dros ben” bod Warren Gatland yn ôl wrth y llyw.
“Doeddwn i byth yn meddwl y byddai Warren yn dod yn ôl, roedd e wedi gwneud ei siâr,” meddai wrth golwg360.
“Mae e wastad yn risg i fynd yn ôl i rywbeth, dyna pam fydden i byth yn mynd yn ôl i’r Senedd, mae’n rhaid symud ymlaen.
“Ond mae’r ffaith bod Warren wedi dod yn ôl, er y risg efallai, yn dangos pa mor agos i’w galon e yw Cymru a rygbi Cymru.
“Ychydig iawn o hyfforddwyr sy’n mynd yn ôl i rywbeth ar ôl cyfnod llwyddiannus, ond mae e wedi dychwelyd a phob lwc iddo fe.”
Cymru i gipio’r tlws?
Fe fydd ymgyrch Chwe Gwlad Cymru yn dechrau yn Stadiwm Principality ar y pedwerydd o Chwefror, wrth i ddynion Warren Gatland herio Iwerddon.
Oes gan Gymru obaith o ennill y gystadleuaeth, felly, yn ôl Carwyn Jones?
“Oes, dw i’n credu bod e,” meddai.
“Dw i’n gweld bod perfformiadau’r rhanbarthau wedi gwella dros y misoedd diwethaf yma.
“Fe welais i oleuni yn yr hanner cyntaf yn erbyn Awstralia, a dw i’n meddwl mai beth sy’n rhaid i ni ddysgu’n fwy na dim byd arall yw sut i chwarae dros 80 munud.
“Achos roedden ni’n dda iawn hyd at tua 60 munud, ond ar ôl hynny fe gollon ni’n cyfeiriad.
“Felly os yw hwnna yn gallu cael ei ddatrys, dw i’n credu y gallwn ni guro unrhyw un o’r timau [ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad], er bod y safon nawr yn uchel dros ben.
“Mae tîm yr Eidal wedi gwella, mae Ffrainc yn gryf, mae Lloegr wastad wedi bod yn gryf, ac wrth gwrs mae’r Alban ac Iwerddon yn dimau da.
“Felly mae’n anodd gwybod pwy sy’n mynd i ennill.”