Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a phodlediad pêl-droed poblogaidd wedi dod ynghyd i sicrhau diffibriliwr i glybiau ar lawr gwlad ar hyd a lled y wlad.
Bydd y Gymdeithas a phodlediad Socially Distanced Sports Bar – prosiect y digrifwyr Elis James a Mike Bubbins, a’r cyn-newyddiadurwr Steffan Garrero ddechreuodd yn ystod y cyfnod clo – yn cydweithio ag Achub Bywyd Cymru, mudiad sy’n ceisio gwella cyfraddau goroesi ataliad y galon, i sicrhau bod rhagor o glybiau’n gallu cael gafael ar yr offer.
Mae’r fenter wedi cael cefnogaeth gan rai enwau blaenllaw eraill, gan gynnwys y digrifwyr Bob Mortimer a Richard Herring.
“Roedden ni eisiau helpu a gwneud ein rhan er mwyn i glybiau lleol ar lawr gwlad ar hyd a lled Cymru allu cael gafael ar ddiffibriliwr,” meddai Steffan Garrero.
“Yn aml, bydd pobol yn meddwl bod ataliad y galon yn rhywbeth sy’n digwydd i ddynion dros oedran penodol, ond dydy hynny ddim yn wir.
“Ac rwy’n meddwl bod hynny wedi dod yn amlwg iawn pan gwympodd Christian Eriksen yn ystod yr Ewros yn 2021.
“Roedd yn ddyn 29 oed ac yn eithriadol o ffit ond yn brwydro am ei fywyd, a chafodd ei achub gan ddiffibriliwr.
“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cytuno i dalu am y diffibrilwyr ac rydyn ni’n darparu’r cabinetau.
“Ac rydyn ni’n gweithio gydag Achub Bywyd Cymru sy’n gwneud gwaith gwych drwy sicrhau bod yr holl ddiffibrilwyr yn cael eu cofrestru’n iawn, a’u bod yn cael eu cynnal a’u cadw sy’n gwbl hanfodol.
“Fe wnaethon ni ymddangos ar bodlediad Richard Herring ym mis Hydref gyda Bob Mortimer sy’n wych.
“Fe wnaethon ni ddweud wrthyn nhw beth roedden ni’n ceisio ei wneud ac ar unwaith fe wnaeth Bob, sydd wrth gwrs wedi cael llawdriniaeth ar ei galon, roi ei ffi at yr achos ac fe wnaeth Richard ddyblu ein ffi ymddangos i helpu tuag at yr achos.
“Mae’n codi stêm ac mae ar bobol eisiau gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu.”
Diffyg darpariaeth
Mae Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney, yn cefnogi’r ymgyrch i’r carn.
“Rydyn ni’n falch iawn o fod yn rhan o’r fenter hon,” meddai.
“Dim ond yn ystod sesiynau neu gemau mae diffibrilwyr ar gael i’r rhan fwyaf o glybiau, ac maen nhw’n aml yn cael eu cloi mewn ystafelloedd newid am weddill yr amser.
“Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod diffibrilwyr ar gael i’r gymuned gyfan, nid dim ond y chwaraewyr.
“Mae’n enghraifft wych arall o sut mae clybiau pêl-droed yng Nghymru wrth galon ein cymunedau.”
Yn ddiweddar, roedd Achub Bywyd Cymru – y sefydliad cenedlaethol i wella cyfraddau goroesi ataliad y galon yng Nghymru – wedi datgelu bod llai na hanner oedolion Cymru wedi cael hyfforddiant CPR a diffibrilio.
Bydd dros 6,000 o bobol yn cael ataliad sydyn ar y galon bob blwyddyn yng Nghymru a bydd tua 80% o’r rheini’n digwydd yn y cartref.
Mae bron i un o bob pedwar ohonom (24%) wedi gweld rhywun yn cwympo lle’r oedd angen, o bosibl, rhywun wrth law i roi CPR ac ymyrryd yn gynnar â diffibriliwr.
Ond eto, llai na hanner yr oedolion yng Nghymru sy’n teimlo’n ddigon hyderus i roi CPR.
Fodd bynnag, dywedodd 73% o oedolion y byddent yn teimlo’n fwy hyderus i ymyrryd petaent yn gwybod bod y sawl sy’n derbyn yr alwad 999 yn eu tywys drwy’r broses ac yn eu cyfeirio at y diffibriliwr cofrestredig agosaf.
‘Mae help wrth law’
Yn ddiweddar, roedd Achub Bywyd Cymru wedi lansio ymgyrch o’r enw “Cofiwch, mae help wrth law” sy’n annog pobol i ddysgu CPR a defnyddio diffibriliwr a bod yn fwy hyderus a pharod i ymyrryd os bydd rhywun yn cael ataliad y galon.
Mae Achub Bywyd Cymru yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn hyrwyddo CPR a diffibrilio mewn cymunedau ac mae’n annog pawb yng Nghymru i ddysgu neu i ddatblygu eu sgiliau achub bywyd.
Gall clybiau pêl-droed ar hyd a lled Cymru sydd awydd cael diffibriliwr gysylltu â @distantpod ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae cyflwynwyr y podlediad hefyd wedi creu partneriaeth â’r cwmni coffi lleol o Gaerdydd, Fat Whites, i godi arian i brynu diffibrilwyr.
Mae cefnogwyr yn gallu prynu coffi a bydd yr holl elw’n mynd at godi arian i’r fenter gyda’r nod o gefnogi cynifer o glybiau â phosibl.
“Bydd siawns rhywun o oroesi ataliad y galon yn disgyn 10% gyda phob munud sy’n mynd heibio os na chaiff y claf CPR neu ei ddiffibrilio,” meddai’r Athro Len Noakes, cadeirydd Achub Bywyd Cymru.
“Hyd yn oed os nad ydych wedi cael hyfforddiant CPR, mae angen i chi gael yr hyder i weithredu’n gyflym a gwneud rhywbeth oherwydd, yn y pen draw, gallech chi achub bywyd.
“Os dewch chi ar draws rhywun sydd ddim yn anadlu neu ddim yn anadlu’n iawn, ffoniwch 999 a dechrau rhoi CPR ar unwaith.
“Bydd y sawl sy’n derbyn yr alwad 999 yn dweud wrthych chi ble mae’r diffibriliwr agosaf, ond peidiwch byth â stopio rhoi CPR er mwyn nôl y diffibriliwr – anfonwch rywun arall i’w nôl.”