Mae Elfyn Evans yn awyddus i herio am Bencampwriaeth Rali’r Byd eleni, ar ôl cyfaddef ei fod e wedi siomi gyda’i berfformiadau y llynedd.
Ar ôl dod yn ail yn y ddau dymor diwethaf, gorffennodd y Cymro a’i gyd-yrrwr Scott Martin yn bedwerydd yn nhabl y gyrwyr y llynedd, gyda thri ymddeoliad yn rhoi diwedd ar eu huchelgais o ennill y bencampwriaeth am y tro cyntaf.
Y tymor hwn, bydd y gyrrwr o Ddolgellau yn gyrru’r car GR Yaris Rally1 Hybrid fel rhan o dîm Toyota Gazoo Racing.
Prif yrrwr arall y tîm yw’r pencampwr byd presennol, Kalle Rovanperä, y gŵr 22 oed o’r Ffindir a’r pencampwr ieuengaf yn hanes y bencampwriaeth.
Bydd y tymor newydd yn cychwyn nos Iau (Ionawr 19) gyda Rali Monte Carlo.
Barod ar ôl seibiant
“Mae cyfnod allan o dymor y WRC wastad yn fyr, ond mi roedd o’n braf i gael ychydig o seibiant,” meddai Elfyn Evans.
“Rŵan, dw i’n teimlo’n barod am y tymor newydd.
“Roedd canlyniadau’r llynedd yn brin o ddisgwyliadau fy hun, ond fe wnaethon ni wella wrth i’r tymor fynd yn ei flaen a dw i’n gobeithio am ganlyniadau gwell y tymor hwn.
“Mae’r tîm bob amser yn gweithio i ddatblygu’r car a blwyddyn ers i ni gychwyn gyda char Rali1, rydan ni’n deall pethau lot yn well.
“Mae’r gystadleuaeth yn frwd bob blwyddyn ond dw i bendant yn teimlo ein bod mewn lle gwell i herio a brwydro am y teitl, a dyna yw fy nod o hyd.”
Rali heriol
Ar ôl hawlio pencampwriaethau byd y gyrwyr, cyd-yrwyr a gwneuthurwyr y llynedd, Toyota Gazoo yw’r ffefrynnau i gwblhau’r gamp eto eleni am y trydydd tymor yn olynol.
Bydd pencampwr y byd ar wyth achlysur, Sébastien Ogier, hefyd yn ymuno â’r tîm yn rhan amser y tymor hwn, ac mi fydd yntau yn cystadlu yn Rali Monte Carlo y penwythnos yma, ar ei ffyrdd adnabyddus yn Alpau Ffrainc.
Rali Monte Carlo yw’r digwyddiad hynaf ar galendr Pencampwriaeth Ralio’r Byd, ac mae’n cael ei hystyried yn un o’r rhai mwyaf heriol.
Gall tywydd cyfnewidiol olygu bod gyrwyr yn wynebu asffalt sych, yn ogystal ag eira a rhew, o fewn yr un cymal.
O ganlyniad, mae dewis y teiars cywir yn hollbwysig.
“Mae Rali Monte Carlo yn ddigwyddiad enwog ac yn un mae pawb eisiau ennill,” meddai Elfyn Evans.
“Mae o’n her fawr bob blwyddyn, yn enwedig gyda’r amodau, ond mae’n her dw i’n ei mwynhau a gobeithio gallwn ni ddechrau’r flwyddyn gyda chanlyniad cryf.”
- Gwyliwch Gymal Cyffro Rallye Monte-Carlo am 11am ar fore Sul ar Ralïo, ar S4C, yn ogystal ag uchafbwyntiau’r rali gyfan am 9.30pm nos Lun. Dilynwch @RalioS4C ar Twitter, Facebook ac Instagram am y diweddaraf o’r rali. Bydd S4C yn darlledu Cymal Cyffro yn fyw dydd Sul am 11.00yb, yn ogystal ag uchafbwyntiau’r rali lawn am 9.30pm nos Lun.