Mae timau dynion a merched pêl-droed Cymru wedi cyhoeddi cytundeb i sicrhau tâl cyfartal.

Mae’r cytundeb newydd yn ei le hyd at – ac yn cynnwys – Cwpan y Byd y dynion yn 2026 a Chwpan y Byd y merched yn 2027.

Yn ôl Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, mae’r cytundeb yn adlewyrchu eu harwyddair, sef Gyda’n Gilydd yn Gryfach.

“Fel rhan o waith Cymdeithas Bêl-droed Cymru tuag at gyfartaledd, rydyn ni’n hynod falch o gyhoeddi gyda’n gilydd bod ein timau Dynion a Menywod wedi cytuno i strwythur tâl cyfartal ar gyfer gemau cenedlaethol yn y dyfodol,” meddai.

“Rydyn ni’n obeithiol y bydd hyn yn sicrhau bod sêr y dyfodol, bechgyn a merched, yn gweld bod cyfartaledd ar draws pêl-droed rhyngwladol Cymru, sydd yn rhan hynod bwysig o gymdeithas.

“Gyda’r cytundeb yn ei le, byddwn ni nawr yn edrych ymlaen at yr ymgyrchoedd i geisio cyrraedd pencampwriaethau UEFA EURO 2024 a 2025, wrth i ni edrych i sicrhau mwy o lwyddiant yn y dyfodol agos ar draws ein timau cenedlaethol.”

Yn ôl y Gymdeithas, mae’r cytundeb yn hynod bwysig wrth ddangos i chwaraewyr y dyfodol fod pawb sy’n cynrychioli Cymru ar y lefel uchaf “yn gwisgo’r un crys ac yn cynrychioli’r un tîm yn gyfartal.

“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn fudiad modern sydd yn edrych i’r dyfodol wrth i ni geisio tyfu yn ddyddiol,” meddai Noel Mooney wedyn.

“Mae’r cytundeb yma yn gam arall tuag at fod yn un o fudiadau chwaraeon gorau’r byd a hoffwn i ddiolch i’r timau Dynion a Menywod am gydweithio’n wych i sicrhau bod y cytundeb yn cael ei gwblhau.”