Mae’r Farwnes Tanni Grey-Thompson wedi’i hethol yn gyd-gadeirydd dros dro Clwb Criced Swydd Efrog tan fis Mawrth.

Daw hyn wrth i’r cadeirydd presennol, yr Arglwydd Kamlesh Patel, baratoi i gamu o’r neilltu ym mis Mawrth.

Bydd y Gymraes yn gadeirydd dros dro hyd nes bod y clwb yn ethol cadeirydd parhaol newydd.

Dywed y clwb y byddan nhw’n cynnal “proses recriwtio deg, drylwyr a chadarn” i ddod o hyd i ymgeisydd addas, yn dilyn cyfnod cythryblus ar ôl honiadau o hiliaeth sefydliadol sydd wedi cael effaith bellgyrhaeddol ar y clwb a chriced yn ehangach.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw “wedi ymrwymo i gyflwyno newidiadau positif yn unol â’r gwerthoedd a safonau sydd wedi’u sefydlu gan yr Arglwydd Patel a’r Bwrdd”.

Ar hyn o bryd, mae Tanni Grey-Thompson yn aelod o Fwrdd Clwb Criced Swydd Efrog ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol hefyd.

Y Farwnes Tanni Grey-Thompson

Paralympwraig fwyaf llwyddiannus Cymru ac ymgyrchydd yn ymuno â bwrdd Clwb Criced Swydd Efrog

Mae’r Farwnes Tanni Grey-Thompson yn un o chwe aelod newydd wrth i’r clwb geisio symud ymlaen o’r helynt hiliaeth