Mae Meg Lanning, cricedwraig o Awstralia sydd wedi chwarae i’r Tân Cymreig yng Nghaerdydd, wedi datgan ei chefnogaeth i’w chyd-chwaraewraig fu’n cwyno bod y tîm cenedlaethol yn chwarae ar ddiwrnod arwyddocaol i frodorion Awstralia.
Mae Ashleigh Gardner wedi cwyno am y gêm ugain pelawd yn erbyn Pacistan ddydd Iau (Ionawr 26), diwrnod sydd yn achosi “loes a galar” i frodorion Awstralia.
Diwrnod Awstralia yw Ionawr 26, pan wnaeth y Capten Arthur Phillip ddatgan fod y wlad yn eiddo’r Ymerodraeth Brydeinig, gan niweidio cymunedau brodorol yn ddifrifol. Mae hefyd yn cael ei adnabod fel Diwrnod y Gorchfygiad.
Roedd disgwyl i’r gêm yn Hobart, Tasmania gael ei chynnal ddydd Gwener (Ionawr 27) yn wreiddiol, ond cafodd ei symud pan gafodd cyfres y dynion yn erbyn De Affrica ei chanslo.
Ar y diwrnod, mae disgwyl i’r merched wisgo crys, bandiau garddwrn a sanau sy’n tynnu sylw at frodorion.
“Mae’n rywbeth na allwn ni ei reoli yn nhermau’r amserlen a chwarae ar y diwrnod hwnnw,” meddai Meg Lanning, yn ôl adroddiadau gan y wefan ESPN Cricinfo.
“Ond rhywbeth yr hoffem ei wneud yw cydnabod tristwch a galar y diwrnod hwnnw i bobol o’r Genedl Gyntaf.
“Byddwn ni’n ceisio manteisio ar y cyfle sydd gennym i addysgu’n hunain ac i geisio creu gwell dealltwriaeth o’r hyn mae’n ei olygu a’u diwylliant nhw.
“Mae yna wir undod o fewn y grŵp, ac rydym oll yn cefnogi Ash a’i theimladau ynghylch y diwrnod.”
Mae Meg Lanning yn dweud bod ei chyd-chwaraewraig yn “ddewr”, ar ôl iddi gael ei sarhau ar-lein yn sgil ei sylwadau.
Diwrnod Cenedlaethol Awstralia a’r byd criced
Mae Diwrnod Cenedlaethol Awstralia wedi cael cryn sylw gan yr awdurdodau criced ar hyd y blynyddoedd, ac fe fu ymgyrchoedd ar y gweill i dynnu sylw at arwyddocâd y diwrnod i frodorion Awstralia.
Fe wnaeth y sefydliad roi’r gorau rai blynyddoedd yn ôl i ddefnyddio’r diwrnod fel ffordd o farchnata gemau, ond cafodd hynny ei feirniadu gan y cyn-Brif Weinidog Scott Morrison.
Bydd brodorion hefyd yn cael eu dathlu fel rhan o gystadleuaeth y Big Bash League tymor nesaf, a bydd tîm cenedlaethol y merched yn gwisgo crys brodorol ar gyfer Cwpan y Byd ugain pelawd fis nesaf.