Mae felodrôm hanesyddol yng Nghaerdydd gam yn nes at gael ei ddymchwel, ar ôl i bwyllgor annibynnol benderfynu y dylid bwrw ymlaen â chynllun cyfnewid tir dadleuol.

Ar ôl misoedd o drafodaethau, gwnaeth Pwyllgor Annibynnol Ymddiriedolaeth Parc Maendy y penderfyniad i gymeradwyo argymhelliad i Gyngor Caerdydd i gyfnewid tir ym Mharc Maendy am dir ym Mharc Caedelyn yn Rhiwbeina.

Gallai’r cynllun arfaethedig i gyfnewid tir, fydd hefyd yn ddibynnol ar gymeradwyaeth y Comisiwn Elusennau, arwain y ffordd ar gyfer ehangu Ysgol Uwchradd Cathays.

Fe wnaeth trigolion ac ymgyrchwyr fu’n gwrthwynebu cyfnewid tir godi eu lleisio yn ystod y cyfarfod olaf o’r pwyllgor annibynnol heddiw (dydd Llun, Ionawr 23).

“Mae hi’n glir y bydd y cyfnewid tir arfaethedig yn arwain at golled net o dir parc o fewn y ddinas,” meddai Ian Vincent, ar ran Cymdeithas Sifil Caerdydd yn ystod y cyfarfod.

“Mae gofod agored cyhoeddus, fel y gwyddom o’r pandemig ac ymchwil ryngwladol, yn hanfodol ar gyfer iechyd a lles y boblogaeth.

“Eisoes mae gan Gaerdydd lai o ofod agored y pen na nifer o ddinasoedd mawr eraill y Deyrnas Unedig, ac felly all hi ddim fforddio colli rhagor.”

Ystyried y sefyllfa

Cafodd y Pwyllgor Ymddiriedolaeth Parc Mendy annibynnol ei sefydlu er mwyn gwrthbwyso gwrthdaro buddiannau Cyngor Caerdydd, gan y bydden nhw wedi bod â rhan yn y penderfyniad ynghylch cyfnewid tir, a hwythau’n awdurdod addysg ac yn unig ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Parc Maendy.

Roedd disgwyl argymhelliad terfynol gan y pwyllgor ym mis Tachwedd 2017 yn wreiddiol, ond cafodd ei oedi fel bod modd cael rhagor o wybodaeth cyn iddyn nhw wneud penderfyniad.

Cafodd darn o Gaeau Blackweir, oedd hefyd yn cael ei ystyried fel rhan o’r cynllun cyfnewid tir, ei wfftio ar ôl iddo gael ei ystyried yn opsiwn anaddas.

‘Dim buddiannau i drigolion’

“Mae Parc Caedelyn, yr eilydd sy’n cael ei gynnig, eisoes yn ardal hamdden i’r cyhoedd a dydy’r cyfnewid tir arfaethedig ddim yn cynnig unrhyw fuddiannau o gwbl i drigolion,” meddai Ian Vincent.

“Ymhellach, mae Parc Caedelyn 2.1 milltir i ffwrdd o Barc Maendy, sy’n ei wneud yn eilydd anaddas i’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr cyfredol Parc Maendy o ganlyniad i’r amser teithio ychwanegol sydd ei angen a’r allyriadau ychwanegol sydd ynghlwm wrth hynny.”

Roedd Pwyllgor Cynghori Ymddiriedolaeth Parc Maendy’n gyfuniad o dri aelod o bwyllgor safonau a moeseg y Cyngor.

“Mae’r pwyllgor wedi cyfarfod ar dri achlysur ac wedi ystyried yr adroddiadau a’r ychwanegiadau gafodd eu cyflwyno iddo,” meddai Jason Bartlett, cadeirydd y pwyllgor.

“Mae wedi cwblhau ymweliad â’r safle, wedi gofyn am wybodaeth ychwanegol, wedi gwrando ar dystiolaeth grwpiau cymunedol ac wedi ystyried yn ofalus y dystiolaeth honno yn ogystal â thystiolaeth ysgrifenedig, ymatebion i ymynghoriad, gwerthusiad annibynnol a chyngor cyfreithiol ac asesiad effaith ar gydraddoldeb.

“Ar ôl ystyried yr holl wybodaeth yn ofalus, mae’r pwyllgor wedi cytuno ein bod yn credu bod y cyfnewid tir er lles yr elusen ac felly’n argymell fod y Cabinet, fel ymddiriedolwr yr elusen, yn cytuno, yn ddibynnol ar ganiatâd y Comisiwn Elusennau, i gyfnewid a rhyddhau o ymddiriedaeth tir Parc Maendy… i dir ym Mharc Caedelyn.”

Ysgol newydd ar safle Felodrôm Maendy: Cyngor Caerdydd “yn ceisio cydbwyso anghenion” y gymuned

Mae’r Cyngor wedi ymateb i ymgyrch sy’n ceisio achub y trac arwyddocaol wrth iddyn nhw godi ysgol newydd yn y brifddinas

Ymgyrch i achub felodrôm oedd yn allweddol yn natblygiad Geraint Thomas

Mae Cyngor Caerdydd eisiau dymchwel y felodrôm a’i symud i Fae Caerdydd fel rhan o gynlluniau i ehangu ysgol uwchradd, medd ymgyrchwyr