Mae Frank Lampard, rheolwr tîm pêl-droed Everton, wedi cael ei ddiswyddo ar ôl llai na blwyddyn wrth y llyw.

Roedd eu colled yn erbyn West Ham dros y penwythnos yn golygu eu bod nhw bellach wedi colli naw gêm allan o 12 yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Maen nhw’n 19eg y tabl, a dim ond gwahaniaeth goliau sy’n eu gwahanu nhw a Southampton, sydd ar y gwaelod.

Cafodd Lampard – oedd wedi chwarae naw o gemau i Abertawe ar fenthyg yn 1995-96 ac sy’n un o fawrion y gamp yn Lloegr dros y degawdau diwethaf – ei benodi fis Ionawr y llynedd gyda’r tîm yn unfed ar bymtheg yn y tabl, ac fe lwyddon nhw i osgoi’r gwymp.

Dim ond tair gêm maen nhw wedi’u hennill y tymor hwn.

Lampard oedd eu pumed rheolwr dros y bum mlynedd ddiwethaf, ac mae’n ymddangos bod y clwb a’u cefnogwyr wedi colli amynedd â’r rheolwr, ac roedd pryderon am ddiogelwch y Bwrdd Cyfarwyddwyr yn ddiweddar wrth iddyn nhw gadw draw o’r stadiwm.

Cafodd nifer o’r chwaraewyr eu bygwth gan gefnogwyr yr wythnos ddiwethaf.

Galw am ei ddiswyddo

Dros y dyddiau diwethaf, ymhlith y rhai fu’n galw am ddiswyddo Frank Lampard roedd cyfrif Twitter @EvertonCymraeg.

“Mae’n gâs gen i alw neb allan o’i swydd, ond fedrai’m gweld sut gall Lampard gario ‘mlaen,” meddai.

“De ni just ddim yn edrych fel sgorio o “open play” ac mae cyfrifoldeb arno fo am hynnu.

“Mae’r holl sŵn am y “board” wedi rhoi mwy o amser i Lampard na be fyddai neb arall wedi gael.

“Mae gen i bechod dros y dyn, roedd hi’n job anodd yn y dechre, a dwi’n wîr yn teimlo fod o wedi rhoi popeth i Everton, ond mae o’n cael ei dalu yn dda ac mae’n deall fod cyfrifoldeb a pwysau mawr i fod yn rheolwr ar Everton, dwi’n siwr bydd Lampard yn ok ar ôl colli y swydd.”