Mae pennaeth Pencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi wfftio’r awgrym y gallai tîm rygbi De Affrica ymuno â’r twrnament.
Mae clybiau’r wlad wedi bod yn cystadlu fwyfwy yn erbyn clybiau yn Hemisffer y Gogledd, gyda phedwar tîm yn ymuno â’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn 2021 a thri yn cymryd rhan yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop y tymor diwethaf.
Ond yn ôl Ben Morel, Prif Weithredwr y Chwe Gwlad, does dim cynlluniau ar y gweill i ehangu Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, sy’n cynnwys Cymru, Lloegr, yr Alban, Iwerddon, Ffrainc a’r Eidal ar hyn o bryd.
“Galla i ddeall y ddeinameg honno, ond mae angen cystadleuaeth i chwarae ynddi ar y chwaraewyr yng ngêm y clybiau yn Ne Affrica, sydd wedi bod yn broblem o’u hochr nhw,” meddai wrth y Telegraph.
“Mae’n amlwg fod peth diddordeb wedi bod, ond dydyn ni ddim yn cymryd rhan mewn unrhyw un o’r sgyrsiau hynny.
“Rydyn ni’n canolbwyntio ar yr hyn rydyn ni’n credu sy’n gydbwysedd iawn ar gyfer y gamp, hynny yw dod o hyd i gemau cystadleuol fydd yn dod â llwybrau i’r gwledydd sy’n datblygu hefyd.
“Rydyn ni’n cael galwadau a sgyrsiau cynhyrchiol iawn gyda Hemisffer y De yn hynny o beth, a gobeithio y gallwn ni ddod i ryw gytundeb mewn cyfnod cymharol fyr, ac rydym yn credu bod hynny er lles y gêm.”
Bydd De Affrica, felly, yn parhau i herio Awstralia, Seland Newydd a’r Ariannin yn y Bencampwriaeth Rygbi tan o leiaf 2025.
Ac yn ôl Ben Morel, does dim trafodaethau wedi bod ynghylch timau’n ennill dyrchafiad neu’n gostwng o Bencampwriaeth y Chwe Gwlad, a thimau eraill yn cymryd eu lle.
Bydd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn dechrau ar Chwefror 4.