Mae cyn-weithwyr corff llywodraethu rygbi Cymru wedi cyhuddo’r sefydliad o “ddiwylliant gwenwynig” o rywiaeth.
Mae dwy ddynes wedi dweud wrth BBC Cymru Wales Investigates eu bod nhw wedi ystyried lladd eu hunain ar ôl dioddef rhywiaeth honedig a bwlio o fewn Undeb Rygbi Cymru (WRU).
Disgrifiodd un ddynes, sy’n dweud iddi fynd cyn belled ag ysgrifennu llawlyfr i’w gŵr ar beth i’w wneud pe bai’n marw, ei chyfnod yn yr Undeb fel “clwyf agored”.
Dywedodd un o gyn-chwaraewyr rhyngwladol Cymru, sydd bellach yn Aelod Seneddol, wrth BBC Cymru fod honiadau gan fenywod “ar yr un lefel” â sgandal hiliaeth Clwb Criced Swydd Efrog.
Dywed Undeb Rygbi Cymru eu bod yn cymryd unrhyw honiadau gan staff ynglŷn ag ymddygiad, agwedd ac iaith o ddifrif, nad oes lle i ymddygiad o’r fath yn Undeb Rygbi Cymru na rygbi Cymru, ac os caiff unrhyw honiadau eu cadarnhau y byddan nhw’n gweithredu’n gyflym.
Daw hyn wrth i dîm rygbi Cymru ymuno â thimau eraill y Deyrnas Unedig heddiw (dydd Llun, Ionawr 23) i lansio Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2023.
‘Torrais yn ddagrau’
Cafodd Charlotte Wathan ei chyflogi gan Undeb Rygbi Cymru i helpu i drawsnewid gêm y merched, oedd mewn trafferthion yn 2018.
Dywedodd wrth BBC Wales Investigates fod cydweithiwr gwrywaidd wedi dweud, pan oedd hi yno ac o flaen aelodau eraill o staff Undeb Rygbi Cymru mewn swyddfa, ei fod am ei “threisio”.
“Rwy’n cofio sefyll mewn sioc yn meddwl, ‘Wnes i jest clywed hwnna?’ a phawb yn chwerthin, ac roedd uwch aelod o staff yno.
“Gadewais yr ystafell a thorrais yn ddagrau.
“Roeddwn i’n teimlo’n sâl.”
Mae hi’n honni bod uwch-reolwr yn dyst i’r sylw, ond wedi dweud dim byd.
Roedd ymchwiliad i’r honiad yn y pen draw gan gyfreithiwr annibynnol gafodd ei gyflogi gan Undeb Rygbi Cymru ar ôl i Charlotte Wathan ac eraill godi’r mater hwnnw fel rhan o gŵyn ehangach.
Dywed Charlotte Wathan iddi roi rhestr o dystion posibl iddyn nhw i gadarnhau’r hyn roedd hi’n ei ddweud.
Ond mae’r BBC wedi darganfod na chysylltwyd â nifer ohonyn nhw, ac na chafodd y dyn y gwnaeth hi ei gyhuddo o ddweud ei fod am ei threisio yn ei ystafell westy ddim ei gyfweld fel rhan o’r ymchwiliad i’r gŵyn, ac mae’n dal i weithio i Undeb Rygbi Cymru.
Ymateb Undeb Rygbi Cymru
Dywedodd Undeb Rygbi Cymru wrth y BBC fod honiadau Charlotte yn parhau heb eu profi, yn dilyn ymchwiliad cyfreithiol annibynnol trylwyr ac na allan nhw wneud sylw pellach oherwydd bod ei hachos wedi’i setlo ers ei chyfweliad â’r BBC, fel rhan o’r hyn ddisgrifiodd y ddwy ochr fel “cytundeb cyfeillgar”.
Ym mis Rhagfyr, daeth cais i Steve Phillips, pennaeth Undeb Rygbi Cymru, am ei ymateb mewn cynhadledd i’r wasg i “gytundeb cyfeillgar” y sefydliad gyda Charlotte Wathan.
Dywedodd na fyddai Undeb Rygbi Cymru “byth yn hunanfodlon”.
“Rydych chi’n gwybod, mae’r disgwyliadau’n uchel iawn ac yn gwbl briodol, ar bawb yn Undeb Rygbi Cymru, a byddwn yn cynnal y safonau hynny,” meddai.
Sylwadau hiliol
Mae cyn-weithwyr eraill hefyd yn honni rhywiaeth, gan ddweud hefyd na chafodd sylwadau hiliol eu trin mewn modd priodol gan y sefydliad.
Roedden nhw hefyd yn honni bod sylwadau homoffobig yn ymwneud â chwaraewyr benywaidd wedi cael eu gwneud gan rai staff.
Mae’r BBC wedi siarad â dau berson sy’n dweud eu bod yn dyst i derm hiliol yn cael ei ddefnyddio mewn cyfarfod ar-lein lle’r oedd nifer o staff yn bresennol, gan gynnwys uwch-reolwr.
Un o’r tystion hynny oedd Marc Roberts, oedd yn rheolwr yn y gêm gymunedol ar y pryd.
“Fe wnes i ei godi a dweud bod y term hwnnw’n annerbyniol ac yn amhriodol,” meddai.
“Wnaeth yr uwch-reolwr ddim stopio ar unrhyw adeg a dweud, ‘Ni allwch ddefnyddio’r term hwnnw, nad yw’n derm priodol’.”
Gadawodd Marc Roberts ei swydd yn ddiweddar, ar ôl bod yn gweithio i Undeb Rygbi Cymru am 20 mlynedd.
“Nid yw’n ddiwylliant sy’n hoffi cael ei herio,” meddai.
‘Teimlo’n hunanladdol’
Dywedodd un fenyw, oedd wedi gadael Undeb Rygbi Cymru yn 2018 ac sy’n dymuno aros yn ddienw, fod bwlio a rhywiaeth yn y gwaith wedi gadael iddi deimlo’n hunanladdol.
“Nid oedd hyn yn ymwneud â digwyddiad yma ac acw,” meddai wrth raglen y BBC.
“Roedd yn fy nhanseilio’n barhaus, i mi neu fy rhyw, trwy bigo at bethau amherthnasol.
“Es i mor bell â dechrau drafftio llawlyfr ar gyfer fy ngŵr ar beth i’w wneud pe bawn i’n marw.
“Mae’n mynd â chi i le tywyll, tywyll iawn pan allwch chi wir edrych ar eich gŵr a meddwl, ‘Rwyt ti’n ddigon ifanc i gwrdd â rhywun arall, ac mae fy merch yn ddigon ifanc i gael mam arall’.”
Dywed iddi gael ei chynghori gan yr adran Adnoddau Dynol i gyflwyno cŵyn yn erbyn y rheolwr dan sylw, a dywedwyd wrthi y gallai symud i swyddfa arall o fewn yr adeilad, ond oherwydd y byddai’n parhau i weithio yn yr un adeilad roedd yn ofni y byddai cwyno yn gwneud bywyd yn anoddach.
Gadawodd y sefydliad yn y pen draw heb wneud cŵyn, ond dywed iddi roi enw’r rheolwr yr oedd yn ei chyhuddo i’r adran Adoddau Dynol.
Dywedodd, pan ystyriodd yn ddiweddarach fynd ag Undeb Rygbi Cymru i dribiwnlys, fod y sefydliad yn dadlau ei bod wedi ei gadael yn rhy hwyr i wneud hawliad, ac nad oedd unrhyw sail i hynny beth bynnag.
Dywedodd Undeb Rygbi Cymru wrth y BBC fod ymchwiliad wedi cael ei gynnal i achos y ddynes a bod gweithdrefnau priodol wedi’u dilyn.
Ychwanegon nhw eu bod yn drist clywed sut roedd unigolion ar raglen BBC Wales Investigates yn teimlo, a dywedon nhw y bydden nhw’n parhau i weithio gyda staff i sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a bod rhywun yn gwrando arnyn nhw.
Galw am sefydlu corff ymchwilio annibynnol
Dywed un o gyn-chwaraewyr rygbi rhyngwladol Cymru fod y merched hefyd wedi codi pryderon gyda hi.
A hithau bellach yn Aelod Seneddol Llafur, mae Tonia Antoniazzi yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu corff annibynnol i oruchwylio cyrff llywodraethu chwaraeon Cymru a’u dwyn i gyfrif.
Mae hi hefyd am i’r Senedd sefydlu ymchwiliad i’r honiadau, dan arweiniad pwyllgor craffu.
“Mae hyn ar lefel yr hyn sydd wedi digwydd mewn criced,” meddai am yr helynt hiliaeth sy’n gysgod tros y byd criced ers rhai blynyddoedd.
“Mae gennyf bryderon mawr iawn am ddyfodol rygbi merched yng Nghymru.
“Oni bai eich bod yn fenyw ac yn esgusodi’r mynegiant, ond gyda pheli a phocedi dwfn, sut ar wyneb y ddaear ydych chi’n cymryd rhywun fel Undeb Rygbi Cymru ac yn sefyll i fyny yn eu herbyn heb anfantais ariannol a niwed i enw da?
“Mae’n rhaid sefydlu corff annibynnol i edrych ar gwynion, pob cŵyn, pan fydd materion o fewn cyrff llywodraethu, cyrff llywodraethu chwaraeon yng Nghymru.
“Mae angen rhywle i fynd.”
Dywed Undeb Rygbi Cymru eu bod nhw wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a bod datblygu gêm y menywod a merched yn nod strategol allweddol i’r sefydliad, ac y bydd yn parhau felly yn y dyfodol.
Y llynedd, cafodd chwaraewyr benywaidd gytundebau proffesiynol am y tro cyntaf.