Mae Alex King wedi’i benodi’n hyfforddwr ymosod a Mike Forshaw yn hyfforddwr amddiffyn, wrth i Warren Gatland barhau i adeiladu tîm o hyfforddwyr ar gyfer tîm rygbi Cymru.
Maen nhw’n ymuno â Jonathan Humphreys, sy’n hyfforddi’r blaenwyr, a’r hyfforddwr sgiliau Neil Jenkins.
Enillodd Alex King bump o gapiau dros Loegr yn safle’r maswr, a bu’n hyfforddwr ymosod Cymru yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2017 pan oedd Gatland yn paratoi i hyfforddi’r Llewod.
Treuliodd ran fwyaf ei yrfa’n chwarae i Wasps, cyn symud i Clermont Auvergne, gan symud i fod yn hyfforddwr ar y tîm Ffrengig wrth iddyn nhw ennill cynghrair y Top 14 am y tro cyntaf erioed.
Fe gynorthwyodd e Northampton wrth iddyn nhw ennill Uwch Gynghrair Lloegr yn 2014, cyn symud i Montpellier yn Ffrainc.
Yn fwyaf diweddar, bu’n hyfforddwr ymosod Caerloyw am ddau dymor.
Mae Mike Forshaw yn ymuno o Sale, lle bu’n hyfforddwr amddiffyn ers 2013.
Chwaraeodd rygbi’r gynghrair dros Loegr a Phrydain, a bu’n gweithio gyda Warrington a Wigan ar ôl cyfnod yn hyfforddi tîm rygbi’r undeb Connacht yn Iwerddon wrth iddyn nhw gystadlu yng Nghwpan Heineken am y tro cyntaf yn 2011.
Yn ystod ei yrfa ar y cae, chwaraeodd i glybiau Wigan, Wakefield Trinity a Leeds yn y gêm 13 dyn, cyn symud i rygbi’r undeb at y Saracens a dychwelyd wedyn i rygbi’r gynghrair gyda Bradford Bulls a Warrington.
‘Dw i wrth fy modd’
“Dw i wrth fy modd fod Alex a Mike yn ymuno â thîm hyfforddi Cymru,” meddai Warren Gatland.
“Mae gan y ddau ddigon o brofiad fel chwaraewyr a hyfforddwyr, fydd yn bwysig dros ben i ddatblygiad y garfan trwy gyda Chwe Gwlad Guinness a thu hwnt.
“Hoffwn ddiolch i Sale Sharks am eu cydweithrediad yn y broses ac am alluogi Mike i gymryd y swydd hon gyda Chymru.
“Mae gennym ni lai na mis cyn ein gêm gyntaf yn y Chwe Gwlad yn erbyn tîm rhif un y byd [Iwerddon, Chwefror 4] sydd, fel dw i wedi’i ddweud o’r blaen, yn her fawr yn y lle cyntaf ac yn un rydyn ni wedi cyffroi yn ei chylch fel grŵp hyfforddi.
“Bydd cael ein gêm gyntaf yn y bencampwriaeth hon gartref yn arbennig iawn, a dw i wir yn edrych ymlaen at gael bod yn ôl allan yn Stadiwm Principality gerbron cefnogwyr gorau’r byd.”
‘Balch dros ben’
“Dw i’n falch dros ben o gael bod yn rhan o dîm hyfforddi Cymru eto,” meddai Alex King.
“Fe wnes i fwynhau fy amser blaenorol yn gweithio gyda’r garfan yn fawr iawn.
“Mae yna chwaraewyr talentog yng Nghymru, felly dw i wir wedi cyffroi o gael y cyfle newydd hwn, ac alla i ddim aros i gael bwrw iddi.”
Dywed Mike Forshaw ei fod yntau’n “edrych ymlaen at yr her”.
“Alla i ddim aros i gael cwrdd â’r chwaraewyr a dechrau gweithio gyda charfan dalentog iawn,” meddai.
“Chwaraeais i yng Nghaerdydd yn 2003, ac mae’n lle anhygoel i chwarae rygbi.
“Dw i eisiau cael y bois hyn yn amddiffyn gyda gwir egni, a dw i eisiau iddyn nhw deimlo’n gyffrous ynghylch eu gwaith amddiffynnol.
“Os gallwn ni wneud hynny, dw i wir yn meddwl y gallwn ni gymryd camau breision fel tîm a chyflawni rhywbeth arbennig, oherwydd mae’r dalent yno.”
‘Un o hyfforddwyr gwych y gamp’
Yn ôl Mike Forshaw, mae Warren Gatland yn “un o hyfforddwyr gwych y gamp”.
“Siaradais i â fe ar y ffôn ac alla i ddim aros i gael dechrau gweithio gyda fe a dod i’w adnabod e’n bersonol hefyd,” meddai.
“Mae hwn, fwy na thebyg, yn un o’r ychydig swyddi y byddwn i wedi gadael Sale ar eu cyfer, ond dw i’n gwybod fy mod i’n gadael clwb sy’n symud i’r cyfeiriad cywir.
“Mae’n glwb arbennig iawn a dw i wedi cyffroi o gael gweld beth all y grŵp hwn ei gyflawni y tymor hwn a thu hwnt.”