Mae teyrngedau wedi cael eu talu i Gareth Bale yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw (dydd Mercher, Ionawr 11).
Daw hyn ar ôl i gapten tîm pêl-droed Cymru gyhoeddi ei ymddeoliad o’r byd pêl-droed.
Mewn datganiad sydd wedi’i gyhoeddi gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru, dywed mai hwn yw “penderfyniad mwyaf anodd” ei yrfa.
Enillodd 111 o gapiau dros ei wlad, gan sgorio 41 o goliau.
Wrth gyhoeddi ei ymddeoliad, dywedodd “na all geiriau gyfle” ei deimladau o fod wedi cynrychioli’r genedl ond fod y profiad “wedi newid nid yn unig fy mywyd, ond pwy ydw i”.
Daeth ei ymddeoliad yn dilyn ymgyrch siomedig Cymru yng Nghwpan y Byd, ac yntau hefyd wedi bod yn aelod o’r garfan mewn dwy gystadleuaeth Ewro, yn 2016 a 2020.
Dechreuodd ei yrfa yn Southampton, cyn symud i Tottenham Hotspur yn 2007.
Daeth i sylw’r byd ehangach pan symudodd i Real Madrid am £85m yn 2013, ond symudodd i Los Angeles haf diwethaf ar ôl cyfnod cythryblus yn Sbaen, er ei fod e wedi mynd yno ar ôl ennill gwobr Chwaraewr y Flwyddyn a Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn Uwch Gynghrair Lloegr.
Enillodd e 18 o dlysau yn ystod ei yrfa, ac roedd yn Chwaraewr y Flwyddyn yng Nghymru bob blwyddyn rhwng 2010 a 2016.
‘Arwr’
“Rwy’n siŵr y bydd yr holl Dŷ yn ymuno â mi wrth ddymuno’r gorau i Gareth Bale, cyn-gapten tîm pêl-droed dynion Cymru, sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth genedlaethol ac aeth â Chymru i Gwpan y Byd,” meddai Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wrth siarad yn sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog.
“Gadewch i mi ymuno â’r aelod anrhydeddus; fel cefnogwr Southampton, mae Gareth Bale hefyd yn arwr i mi hefyd ac rwy’n dymuno’n dda iddo,” meddai Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig.
🏴⚽️ Pwy fyddech chi'n ei dewis i fod yn gapten nesaf @Cymru?
— Golwg360 (@Golwg360) January 11, 2023