Mae rhanbarth Rygbi Caerdydd wedi cadarnhau y bydd Thomas Young allan am dri mis, sy’n golygu na fydd e ar gael i chwarae dros Gymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Roedd y blaenasgellwr wedi bod yn gwthio am le yng ngharfan Warren Gatland, yn dilyn nifer o berfformiadau clodwiw i’w ranbarth y tymor hwn ar ôl symud o Wasps.

Ond mae e wedi anafu cyhyr yn ei goes, ac fe fu’n rhaid iddo adael y cae yn ystod y gêm yn erbyn y Scarlets yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig yr wythnos ddiwethaf.

Bu’n rhaid i Liam Williams adael y cae am asesiad i’r pen, ynghyd â Rey Lee-Lo, ac mae’r ddau bellach yn dilyn y protocol arferol cyn dychwelyd i chwarae eto.

Mae disgwyl i Warren Gatland enwi ei garfan yr wythnos nesaf.