Mae Hoci Cymru wedi penodi Paul Whapham yn Brif Weithredwr.

Yn un sydd â phrofiad helaeth o fwy na dau ddegawd ym maes gweinyddu chwaraeon, mae’n ymuno â’r corff o ranbarth rygbi’r Gweilch.

Bu’n gweithio â’r Gweilch ers dros wyth mlynedd, ac fe fu’n Gyfarwyddwr Brand Corfforaethol ers pedair blynedd, gan chwarae rhan flaenllaw wrth ffurfio’r Gweilch yn y Gymuned, sydd yn un o’r elusennau datblygu chwaraeon mwyaf yng Nghymru erbyn hyn.

Ymhlith ei lwyddiannau mwyaf mae goruchwylio’r broses o dyfu a datblygu brand y Gweilch ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dros y pedair blynedd diwethaf, bu’n aelod etholedig anweithredol o fwrdd Cymdeithas Chwaraeon Cymru.

Mae Paul hefyd wedi treulio’r pedair blynedd diwethaf fel aelod etholedig anweithredol o fwrdd Cymdeithas Chwaraeon Cymru.

Cafodd ei eni yn Abertawe ac astudiodd ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd a Phrifysgol Bryste.

Mae’n olynu’r Prif Swyddog Gweithredol presennol, Ria Burrage-Male, sy’n gadael ym mis Mawrth i dreulio amser gyda’i theulu ac i deithio’r byd.

Bu hithau’n allweddol wrth gyflawni nifer o lwyddiannau, gan gymryd cyfrifoldeb am oruchwylio gwelliannau perfformiad dramatig y timau dynion a merched.

Mae’r ddau dîm wedi cael eu perfformiadau gorau erioed yn ddiweddar wrth gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad, ac mae’r dynion hefyd wedi cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd yn India y mis hwn.

‘Anrhydedd’

“Mae’n anrhydedd cael fy mhenodi’n Brif Swyddog Gweithredol Hoci Cymru a bod yn rhan o Fwrdd Hoci Prydain Fawr,” meddai Paul Whapham.

“Mae’n gyfnod cyffrous ar gyfer hoci, gyda strwythur clwb cadarn, cyfleoedd sylweddol, a lle i arloesi ar draws y Gamp gyfan.

“Rydw i’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’r staff, aelodau o’n cymuned hoci a rhanddeiliaid, gan adeiladu ar lwyddiant diweddar a pharhau i ddatblygu profiadau difyr i bawb sy’n ymwneud â hoci yng Nghymru.

“Fe hoffwn i hefyd ddiolch i bawb yn y Gweilch am eu holl gefnogaeth a dymuno’n dda iddynt i’r dyfodol”.

‘Disgleirio’

“Rydyn ni wrth ein bodd fod Paul yn mynd i fod yn arwain Hoci Cymru,” meddai Conrad Funnell, cadeirydd Hoci Cymru.

“Roedd ei brofiad, ei alluoedd a’i arweinyddiaeth eithriadol yn disgleirio drwy gydol ein proses recriwtio.

“Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gydag ef ynghyd â’r bwrdd i esblygu hoci yng Nghymru.

“Fe hoffwn i hefyd ddiolch i Ria am yr egni eithriadol a’r angerdd y mae hi wedi’i gyflwyno i’n camp ni, ynghyd â’r llwyddiannau mawr a welwyd drwy gydol ei chyfnod fel Prif Swyddog Gweithredol.

“Dymunwn y gorau iddi ar gyfer popeth y bydd yn ei wneud yn y dyfodol ac edrychwn ymlaen at ei gweld ar ochr y cae yn y dyfodol agos.”