Mae Russell Martin, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi canu clodydd triawd canol cae’r clwb, yn enwedig y Cymro Joe Allen, gan ddweud y gallen nhw gael cryn ddylanwad yn ystod ail hanner y tymor.

Gyda’r tri yn chwarae mewn safleoedd tebyg, gan gyflawni rolau tebyg, dydyn nhw ddim wedi bod yn cyd-chwarae llawer y tymor hwn, ond fe wnaethon nhw greu argraff fel triawd yn ystod y golled o 2-1 yn erbyn Burnley, y tîm sydd ar frig y Bencampwriaeth, yr wythnos ddiwethaf, gan chwarae’n ymsodol ond yn bwyllog ar y bêl.

Ar ôl y gêm, dywedodd Vincent Kompany, rheolwr Burnley, fod yr Elyrch yn un o’u gwrthwynebwyr cryfaf y tymor hwn, a hwythau wedi chwarae yn erbyn Manchester United yn Old Trafford yng Nghwpan Carabao hefyd.

Yn ôl Martin, daeth Joe Allen ag egni ac awch i’r tîm, ac roedd y triawd yn gryf unwaith eto yn erbyn Bristol City yng Nghwpan FA Lloegr.

“Mae’r chwaraewyr wedi gwasgu’n wych trwy gydol y tymor, ond yn y ddwy gêm ddiwethaf rydyn ni wedi bod yn fwy corfforol, sy’n rywbeth mae Joe yn ei wneud yn wych,” meddai.

“Mae e’n fach o ran corffolaeth, ond mae e bob tro’n dod allan o frwydr gyda’r bêl ac os nad yw’r bêl ganddo fe, mae’r gwrthwynebydd ar y llawr. Mae hynny’n sgil.

“Mae’n rywbeth mae e wedi’i ddysgu dros y blynyddoedd oherwydd ei faint a’i agwedd ymosodol mae’n ei rheoli.

“Dw i’n meddwl bod cael Joe yn ôl yn mynd i’n helpu ni’n fawr iawn.

“Rydyn ni’n gwybod ers y dechrau pa mor bwysig fydd Joe i ni, nid dim ond y tymor hwn, ond yn y tymhorau i ddod hefyd.

“Mae e o amgylch y chwaraewyr ifainc, yn ymarfer bob dydd, yn dangos iddyn nhw’r feddylfryd sydd ei hangen.

“Mae e’n chwaraewr rhagorol.

“Mae e wedi bod mor rwystredig yn ei amser yma hyd yn hyn, ond dw i’n credu y bydd hynny o fudd i ni yn ystod ail hanner y tymor, oherwydd mae e mor ddespret i ddangos i bawb faint mae e eisiau bod yn ôl yma, ac mae e’r chwaraewr mae pawb yn credu yw e.”

Personoliaeth

Mae Russell Martin hefyd yn credu bod gan Joe Allen y bersonoliaeth i helpu’r tîm i lwyddo.

“Rydyn ni’n siarad am bersonoliaeth ar y cae, ac mae gan Joe ddigonedd o hynny, felly hefyd Grimesy a Jay,” meddai.

“Mae’n fater o geisio datblygu hynny yn y chwaraewyr iau.

“Mae gyda ni lawer o bersonoliaethau mewnblyg yn y garfan, sy’n iawn oddi ar y cae, ond ar y cae mae angen i chi ddatblygu personoliaeth.

“Ein gwaith ni yw dod â hynny allan o’r chwaraewyr ifainc hyn.

“Yn erbyn Burnley, dangoson ni ein bod ni wedi dod o hyd i ffordd o gael Joe, Grimesy a Jay ar y cae ar yr un pryd, sy’n ein helpu ni.

“Fyddan nhw ddim bob amser yn chwarae gyda’i gilydd, ond mae’n ein helpu ni i ddod o hyd i ffordd o’u cael nhw ar y cae gyda’i gilydd oherwydd maen nhw mor brofiadol.

“Mae ganddyn nhw gymaint o ieuenctid o’u hamgylch nhw, fel bod y tri ohonyn nhw’n helpu’r chwaraewyr iau.

“Mae’r tri yn wahanol iawn [i’w gilydd].

“Ond maen nhw’n arweinwyr yn eu ffordd eu hunain, mae pob un o’r tri yn gymharol dawel oddi ar y cae, ond pan fyddan nhw’n camu arno, maen nhw’n helpu pawb o’u hamgylch nhw.”