Bydd Gwyn Derfel, Rheolwr Cyffredinol JD Cymru Premier, yn gadael ei swydd ddiwedd mis Ionawr, ar ôl 11 o flynyddoedd wrth y llyw.

Fe fu hefyd yn gweithio fel darlledwr cyn ymuno â Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn 2012.

Roedd hefyd yn gyfrifol am gyflwyno tîm ‘C’ Cymru yn 2018, gyda’r bwriad o arddangos doniau gorau JD Cymru Premier bob wythnos.

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd ei fod yn “freintiedig” o gael y cyfle i ymgymryd â’r swydd.

Yn ystod ei gyfnod wrth y llyw, fe wnaeth y Gymdeithas sicrhau cyllid gwerth £5m ar gyfer prosiect 3G, a gwella’r gwaith o baratoi a dadansoddi gemau domestig ac Ewropeaidd.

Dywed ei fod yn “wirioneddol ddiolchgar i S4C a thîm Sgorio am drin JD Cymru Premier â’r parch mae’n ei haeddu”, gan ychwanegu mai cyflwyno tîm ‘C’ Cymru’n “un o’m huchafbwyntiau”.

Dywed Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu bod nhw’n “ddiolchgar i Gwyn am ei wasanaeth a’i ymroddiad i’r gynghrair”, gan ddymuno’n dda iddo ar gyfer y dyfodol.