Mae Gareth Bale, capten tîm pêl-droed Cymru, wedi cyhoeddi ei ymddeoliad o’r byd pêl-droed.

Mewn datganiad sydd wedi’i gyhoeddi gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru, dywed mai hwn yw “penderfyniad mwyaf anodd” ei yrfa.

Mae e wedi ennill 111 o gapiau dros ei wlad, gan sgorio 41 o goliau ac mae’n dweud “na all geiriau gyfle” ei deimladau o fod wedi cynrychioli’r genedl ond fod y profiad “wedi newid nid yn unig fy mywyd, ond pwy ydw i”.

Daw ei ymddeoliad yn dilyn ymgyrch siomedig Cymru yng Nghwpan y Byd, ac yntau hefyd wedi bod yn aelod o’r garfan mewn dwy gystadleuaeth Ewro, yn 2016 a 2020.

Dechreuodd ei yrfa yn Southampton, cyn symud i Spurs yn 2007.

Daeth i sylw’r byd ehangach pan symudodd i Real Madrid am £85m yn 2013, ond symudodd i Los Angeles haf diwethaf ar ôl cyfnod cythryblus yn Sbaen, er ei fod e wedi mynd yno ar ôl ennill gwobr Chwaraewr y Flwyddyn a Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn Uwch Gynghrair Lloegr.

Enillodd e 18 o dlysau yn ystod ei yrfa, ac roedd yn Chwaraewr y Flwyddyn yng Nghymru bob blwyddyn rhwng 2010 a 2016.

“Mae bod yn ffodus o fod yn Gymro a chael fy newis a chael bod yn gapten ar Gymru wedi rhoi rhywbeth i fi nad oes modd ei gymharu ag unrhyw beth arall dw i wedi’i brofi,” meddai.

“Mae’n anrhydedd a dw i’n ostyngedig o fod wedi chwarae rhan yn hanes y wlad anhygoel hon, o fod wedi teimlo cefnogaeth ac angerdd y Wal Goch, a bod i lefydd annisgwyl ac anhygoel gyda’n gilydd.

“Fe wnes i rannu ystafell newid gyda bois ddaeth yn frodyr, a staff cynorthwyol ddaeth yn deulu, chwaraeais i â’r rheolwyr mwyaf rhyfeddol, a theimlo cefnogaeth a chariad diflino’r cefnogwyr mwyaf ymroddedig yn y byd.

“Diolch i bob un ohonoch chi am fod ar y daith hon gyda fi.

“Felly am y tro, dw i’n camu’n ôl, ond nid i ffwrdd o’r tîm sy’n byw ynof fi ac sy’n rhedeg trwy fy ngwythiennau.

“Wedi’r cyfan, y ddraig ar fy nghrys yw’r cyfan sydd ei angen arna i.

“Gyda’n gilydd yn gryfach. Diolch.”