Mae Gemma Grainger, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, wedi cael cytundeb newydd tan 2027, fydd yn cwmpasu gemau rhagbrofol Ewro 2025 a Chwpan y Byd 2027.

Cafodd ei phenodi yn 2021, a daeth Cymru o fewn trwch blewyn i gyrraedd twrnament rhyngwladol am y tro cyntaf erioed, gan golli yn ystod amser ychwanegol yn rownd derfynol y gemau ail gyfle ar gyfer Cwpan y Byd 2023.

Daw’r cytundeb newydd ar ôl blwyddyn lwyddiannus i Gymru, lle aeth 15,200 o bobol i wylio’r gêm ail gyfle yn erbyn Bosnia a Herzegovina yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

‘Grŵp uchelgeisiol’

“Rwy’n hynod falch o arwyddo cytundeb newydd a pharatoi’r daith yn gweithio gyda’r grŵp arbennig o chwaraewyr sydd yng Nghymru,” meddai Gemma Grainger.

“Ni’n grŵp uchelgeisiol; fi fel hyfforddwr, y chwaraewyr, a’r Gymdeithas, felly mae’r dyfodol yn edrych yn dda.

“Ni eisiau cario ymlaen y momentwm o’r ymgyrch diwethaf, ar ac oddi ar y cae, dros y flwyddyn newydd ac mewn i’r ymgyrchoedd nesaf.”

Yn ôl Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, mae “camau enfawr” wedi’u cymryd yng ngêm y merched.

“Mae’r grŵp hyn wedi dal dychymyg pobol ledled Cymru ac rwy’n sicr bydd y twf yn y gefnogaeth a’r diddordeb yn parhau dros y blynyddoedd nesaf,” meddai.

Mae David Adams, Prif Swyddog Pêl-Droed y Gymdeithas, hefyd yn croesawi’r newyddion.

“Mae Gemma wedi dangos ei bod hi’n medru datblygu’r tîm talentog hyn yn llwyddiannus, ac yn ystod yr ymgyrch diwethaf roedd yna ddatblygiadau enfawr ac ar oddi ar y cae,” meddai.

“Ni’n hyderus bod Gemma yn medru adeiladu ar y gwaith hyn wrth i ni edrych i gyrraedd Pencampwriaeth UEFA EURO yn 2025 a defnyddio hyn i greu twf yn y nifer sydd yn chwarae pêl-droed ledled Cymru.”

Bydd Cymru’n dechrau’r flwyddyn newydd wrth deithio i Sbaen ym mis Chwefror, i chwarae yn erbyn y Ffilipinas, Gwlad yr Iâ a’r Alban yng Nghwpan Pinatar.