Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi cyhoeddi y bydd Sean Morrison, capten y clwb, yn gadael yr Adar Gleision y mis yma.

Treuliodd y gŵr 31 oed wyth mlynedd a hanner ym mhrifddinas Cymru, a chwe thymor yn gapten.

Mae’n gadael ar ôl gwneud 295 o ymddangosiadau ar draws y gynghrair a chwpanau, a sgoriodd e 33 o goliau.

“Bydd yn cael ei ystyried ymhlith arweinwyr gorau yn hanes Caerdydd o ganlyniad i’w gyfraniad, ei bersonoliaeth a’i ymdrechion,” meddai’r clwb mewn datganiad.

“Ar ôl gwella o anaf difrifol i’w ben-glin ym mis Chwefror 2022, bydd Moz yn parhau â’i yrfa chwarae gyda chlwb arall.

“Rydym yn diolch yn ddiffuant iddo am ei wasanaeth ac yn dymuno’r gorau iddo, sentiment y gwyddom y bydd cefnogwyr yr Adar Gleision yn ei rannu.”

‘Arweinydd go iawn’

“Mae dylanwad Sean yn ystod ei gyfnod yng Nghaerdydd wedi bod yn enfawr,” meddai’r rheolwr Mark Hudson.

“Bu’n ddylanwad mawr yn y clwb hwn. Arweinydd go iawn ar y cae ac oddi arno. Creodd amgylchedd anhygoel ym mhob ystafell newid a arweiniodd, ac roedd yn groesawgar i’r holl staff a chwaraewyr ddaeth i mewn.

“Dw i am ddweud diolch wrtho, ac rydym yn dymuno’r gorau iddo wrth symud ymlaen.”

‘Diolch’

“Ni fydd unrhyw faint o eiriau byth yn ddigon i ddweud wrthych beth mae’r clwb hwn yn ei olygu i mi,” meddai Mark Hudson.

“Mae’r wyth mlynedd a hanner diwethaf wedi cael eu llenwi gyda rhai o’r eiliadau a’r atgofion mwyaf anhygoel.

“I bob aelod o staff a chwaraewr dw i erioed wedi cael y pleser o weithio gyda, diolch.

“Rydych chi wedi fy ngwneud i’n berson gwell a dw i wedi trysori bob eiliad.

“Hoffwn ddiolch hefyd i’r cefnogwyr anhygoel. Chi yw curiad calon Clwb Pêl-droed Caerdydd.

“Roeddwn i wastad yn rhoi 100% ac rwy’n gadael yn falch o fod wedi cael y cyfle i chwarae cymaint o gemau i’r clwb gwych yma.

“Pob lwc i’r dyfodol, Adar Gleision.”