Mae rhanbarth rygbi’r Scarlets yn barod i ymchwilio i honiadau gan Ross Moriarty, wythwr y Dreigiau, fod ei gyfnither 13 oed wedi cael ei sarhau gan eu cefnogwyr.

Cafodd yr honiadau eu gwneud gan Moriarty mewn neges ar Instagram yn dilyn y gêm ddarbi rhwng y Dreigiau a’r Scarlets ar Ddydd Calan (Ionawr 1).

“Does dim ots gyda fi am y gamdriniaeth dw i’n ei chael ar-lein neu ar y cae rygbi gan gefnogwyr, bydd yna ddwy ochr wastad,” meddai.

“Ond mae cael gwybod ar y penwythnos fod fy nghyfnither fach, sy’n 13 oed, wedi cael dynion sydd wedi tyfu i fyny yn sgrechian yn ei hwyneb am ofyn iddyn nhw beidio â fy sarhau i’n eiriol ddim yn rywbeth cyfforddus gen i, a ddylai e ddim fod yn gyfforddus mewn unrhyw gae chwaraeon.

“Mae’n llinell dw i’n gobeithio nad yw pobol yn credu ei bod hi’n iawn ei chroesi.”

‘Eithriadol o siomedig’

Yn ôl y Scarlets, sydd wedi ymateb i’r honiadau, maen nhw’n “eithriadol o siomedig” ynghylch y sefyllfa.

“Rydym yn gweithio’n eithriadol o galed gyda’n sefydliadau cefnogwyr ni, Crys16 a Grŵp Cefnogwyr Swyddogol y Scarlets i greu amgylchfyd sy’n gyfeillgar i deuluoedd sy’n gefnogwyr cartref ac oddi cartref ym Mharc y Scarlets, ac mae clywed am ferch ifanc yn cael ei sarhau’n eiriol gan gefnogwyr yn hollol annerbyniol,” meddai’r rhanbarth.

“Mae gennym bolisi anoddefgarwch llwyr o ran sarhad o unrhyw natur yn ein stadiwm, ac yn annog cefnogwyr i adrodd wrth y clwb am y fath ddigwyddiadau.

“Pe bai’r teulu’n dymuno cysylltu â ni, byddwn yn cynnal ymchwiliad pellach i’r mater hwn.”