Mae’r Cymro Kenny Jackett, cyn-reolwr Clwb Pêl-droed Abertawe, wedi’i benodi’n Gyfarwyddwr Pêl-droed Gillingham.

Bydd yn cydweithio ag Andy Hessenthaler, y Pennaeth Recriwtio newydd, a’r rheolwr Neil Harris, cyn-reolwr Caerdydd.

Cafodd Jackett ei benodi’n rheolwr gan Abertawe yn 2004, gan olynu Brian Flynn, ac fe enillodd yr Elyrch ddyrchafiad o’r Ail Adran yn ei dymor cyntaf wrth y llyw.

Y tymor canlynol, cyrhaeddon nhw’r gemau ail gyfle gan golli ar giciau o’r smotyn yn erbyn Barnsley yn y rownd derfynol.

Enillodd e sawl cwpan gyda’r clwb cyn ymddiswyddo’n annisgwyl yn 2007.

Yn ystod ei yrfa fel chwaraewr, enillodd e 31 o gapiau dros Gymru.