Mae Kit Symons, is-hyfforddwr tîm pêl-droed Cymru, wedi gadael ei swydd.

Mae e wedi bod yn rhan o dîm hyfforddi’r tîm cenedlaethol dair gwaith, gan ymuno am y trydydd tro fis Mai 2021.

Cyn hynny, bu’n rhan o dîm hyfforddi Chris Coleman hefyd.

Yn ei gyfnod diweddaraf, fe fu’n aelod o’r tîm hyfforddi ar gyfer Ewro 2020 a Chwpan y Byd y llynedd.

“Hoffwn ddiolch i Kit am ei waith caled a’i gyfraniad i’r tîm cenedlaethol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gan gynnwys gweithio mewn dau dwrnament mawr dros y cyfnod hwnnw,” meddai’r rheolwr Rob Page.

“Wrth i ni geisio cyrraedd mwy o dwrnameintiau, mae newid bob amser yn bwysig i barhau â’r datblygiad hwnnw o fewn y garfan.

“Hoffwn ddymuno’n dda i Kit ar gyfer y dyfodol.”

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi diolch i Kit Symons, ac wedi dymuno’n dda iddo ar gyfer y dyfodol.

Mae lle i gredu y bydd Alan Knill yn aros yn ei swydd.