Mae rhanbarth rygbi’r Dreigiau wedi cadarnhau ymadawiad Dean Ryan.
Fe fu’n Gyfarwyddwr Rygbi ers mis Mai 2019.
Mewn datganiad byr, dywed y cadeirydd David Buttress fod y rhanbarth “yn diolch i Dean am ei gyfraniad ac yn dymuno pob llwyddiant iddo yn y dyfodol”.
Doedd Dean Ryan ddim wedi bod wrth y llyw ers mis Medi, pan wnaeth e feirniadu’r chwaraewyr ar ôl iddyn nhw golli yn erbyn Caeredin yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.
Ond fe gymerodd bron i bedwar mis i’r rhanbarth gyhoeddi ei fod e wedi gadael ei swydd, ar ôl iddyn nhw ddod i gytundeb â’r Sais.
Mae e bellach wedi ymddiswyddo o fwrdd y Dreigiau hefyd.
Fe fu Dai Flanagan wrth y llyw ar ôl i Dean Ryan wneud y sylwadau am y chwaraewyr.
Daeth cytundeb Ryan i ben yn yr haf, ond roedd disgwyl bryd hynny iddo aros gyda’r rhanbarth mewn swydd ychydig yn wahanol yn dilyn penodiad Flanagan.