Bydd corff pêl-droed FIFA yn gofyn i bob gwlad enwi stadiwm er cof am Pelé, yn ôl y llywydd Gianni Infantino.

Bu farw’r pêl-droediwr byd-enwog o Frasil, un o’r goreuon erioed enillodd Gwpan y Byd deirgwaith a sgorio dros 1,000 o goliau yn ystod ei yrfa, ar Ragfyr 29 yn 82 oed.

Wrth siarad ar achlysur angladd Pelé yn Sao Paulo ddoe (dydd Llun, Ionawr 2), dywedodd Gianni Infantino, Llywydd FIFA, wrth ohebwyr lleol y byddan nhw’n gofyn i bob ffederasiwn gynnal munud o dawelwch a theyrnged er cof amdano.

“Ond rydyn ni hefyd am ofyn i bob gwlad yn y byd enwi un o’u stadia pêl-droed gydag enw Pelé,” meddai.

“Mewn hanner cant neu gan mlynedd, pan fydd plant yn gofyn, ‘Pwy yw Pelé?’ maen nhw angen ei gofio dros y byd i gyd mewn llefydd lle rydych chi’n sgorio goliau, lle rydych chi’n teimlo emosiynau, mewn stadiwm, mewn cae pêl-droed, lle mae plant – bechgyn a merched – yn gallu chwarae. Rydyn ni angen sicrhau hynny.”

Pa un o stadia Cymru fyddech chi’n ei hail-enwi er cof amdano? Gadewch i ni wybod drwy ateb y pôl ar Twitter, neu awgrymu unrhyw un o stadia pêl-droed eraill Cymru.

Wrth wneud sylw ar Twitter, dangosodd y Prifardd Tudur Dylan Jones fod Cae Pele yn ymddangos ar fap y degwm yn Abertawe yn 1840, tua milltir i’r de o Benclawdd.

“Cymru ar y blaen eto,” meddai.

Pelé: o’r llanc 17 oed dorrodd galonnau’r Cymry yn 1958, i’r chwaraewr gorau erioed (yn ôl rhai)

Dilwyn Roberts sy’n adrodd hanes dau ymweliad un o gewri’r byd chwaraeon â Stoke