Mae Vincent Kompany, rheolwr tîm pêl-droed Burnley, yn dweud ei bod hi’n “fwy anodd” herio Abertawe na Manchester United.

Daw ei sylwadau ar ôl i’w dîm guro’r Elyrch o 2-1 yn Stadiwm Swansea.com ddoe (dydd Llun, Ionawr 2), gydag Ian Maatsen yn sgorio dwy gôl yr ymwelwyr ac Ollie Cooper yn rhwydo i’r Elyrch.

Dim ond dwywaith mae Burnley wedi colli y tymor hwn, ac maen nhw’n ffefrynnau i ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair ar ddiwedd y tymor hwn.

Abertawe a Burnley sydd wedi ennill y meddiant mwyaf yn y Bencampwriaeth y tymor hwn.

“Ro’n i’n gwybod fod hon am fod yn gêm anodd,” meddai Vincent Kompany.

“Roedd eu gêm nhw’n fwy ymosodol, ac fe allech chi weld eu bod nhw’n dîm sy’n brwydro.

“Roedden nhw gyda’i gilydd. I fi, maen nhw wedi bod yn dîm gwych erioed, a dw i wrth fy modd yn eu gwylio nhw.

“Does dim un tîm yn y gynghrair, ddim hyd yn oed ni, sy’n gallu trin y bêl fel nhw.

“Aethon ni i Old Trafford a phwyso, a chawson ni hyn yn fwy anodd yn yr hanner cyntaf yma.

“Ar y llaw arall, pan oedden nhw’n ymosodol fel oedden nhw yn y gêm hon, maen nhw’n edrych yn gyflawn i fi.

“Mae gyda ni dîm da sy’n gwneud yn dda, ac felly rydyn ni’n hoff iawn o’r her.

“Mae’n sicr yn un o’r gemau mwyaf anodd y tymor hwn i ni.

“Pan wela i mai dim ond pum pwynt sydd rhwng 16eg a’r safleoedd ail gyfle, pwy a ŵyr beth all ddigwydd.

“Dw i jyst yn teimlo pan dw i’n eu gwylio nhw eu bod nhw’n gwneud llawer yn iawn.

“Yn y pen draw, mater o gadw’r bêl allan o’ch rhwyd yw hi, a’i rhoi hi yn y rhwyd, felly gawn ni weld.”