Mae’r byd chwaraeon yn galaru’r wythnos hon, yn dilyn y newyddion trist am golli Pelé, y cyn-bêldroediwr o Frasil – y chwaraewr gorau erioed i gamu ar y cae pêl-droed, yn ôl rhai.

Fe laniodd ar y llwyfan rhyngwladol yn 17 oed yn 1958, gan dorri calonnau’r Cymry wrth i’w dîm eu curo nhw allan o Gwpan y Byd – y tro diwethaf cyn eleni i Gymru gymhwyso ar gyfer y twrnament.

Dywedodd Pelé ei hun rywdro mai hon oedd gôl bwysicaf gyrfa’r unig chwaraewr yn hanes y gêm i ennill Cwpan y Byd dair gwaith – ac fe sgoriodd e 1,279 (neu 1,283 yn ôl rhai) o goliau i gyd.

Ond doedd honno yn erbyn Cymru’n sicr ddim y gôl brydfertha’, wrth i’r bêl daro Stuart Williams cyn twyllo Jack Kelsey yn y gôl, ac fe aeth Pelé yn ei flaen i sgorio 12 gôl yn ystod y twrnament.

“Pwy oedd y boi yma?” meddai’r Cymro Cliff Jones – wel, daeth y byd i gyd i wybod am Edson Arantes do Nascimento cyn pen dim. Ac fe arhosodd parch mawr y ddau chwaraewr at ei gilydd hyd y diwedd.

Cymaint oedd parch y byd pêl-droed ato dros y degawdau wedyn nes bod cynghreiriau pêl-droed Lloegr wedi bod yn cynnal munud o deyrnged iddo dros y dyddiau diwethaf.

‘Y prawf eithaf’

Efallai bod record Pelé o flaen y gôl yn syfrdanol; efallai bod ganddo’r sgiliau rhyfeddaf; ond yn ôl un cefnogwr brwd o dîm Stoke, mae yna un “prawf eithaf o allu” chwaraewyr pêl-droed, sef y gallu i chwarae ar nos Fawrth oer yn Stoke.

Ond fe greodd Pelé ei fersiwn ei hun o’r chwedl honno, meddai Dilwyn Roberts wrth golwg360.

Ar nos Lun ddigon oer ar Fedi 22, 1969, chwaraeodd Santos yn erbyn Stoke gyda Pelé yn sgorio dwy gôl mewn buddugoliaeth o 3-2 i’r tîm o Frasil.

“Roedd Denis Smith, aeth yn ei flaen i reoli Wrecsam ymysg eraill, dan orchymyn i beidio bod yn rhy arw gyda blaenwr Santos ar y noson!” meddai wedyn.

Doedd Dilwyn Roberts ddim yno i wylio’r gystadleuaeth honno rhwng Pelé a’r golwr Gordon Banks – y ddau chwaraeodd ran yn arbediad gorau’r ganrif flwyddyn yn ddiweddarach yng Nghwpan y Byd yn 1970, ond daeth cyfle bron i ddeugain mlynedd yn ddiweddarach i weld yr arwr yn y cnawd.

“Roeddwn yn Stadiwm Britannia ar ddydd Sadwrn, Gorffennaf 12, 2008 pan ddadorchuddiwyd cerflun o Gordon Banks,” meddai.

“Roedd y gêm er lles gwahanol elusennau yn gyfle i glywed, os nad i weld Pelé, oedd yn cyd-reoli tîm Gweddill y Byd gyda’r Archesgob Desmond Tutu o bawb!

“Roedd Ian Rush yn chwarae yn erbyn Lloegr y diwrnod hwnnw o hel atgofion am gewri’r byd pêl-droed ac, wrth gwrs, am arbediad y ganrif.”