“Yn ystod yr wythnosau diwethaf, ‘rydym wedi gorfod ymdopi ag amodau oer iawn sy’n dra gwahanol i aeafau mwyn y blynyddoedd diwethaf,” meddai Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, yn ei neges flynyddol ar drothwy’r Flwyddyn Newydd.
“Mae hyn yn ei dro wedi codi pryderon ynghylch effaith prisiau porthiant uchel, a llai o borthiant o ansawdd is – yn enwedig felly wrth edrych ymlaen ac ystyried pa dywydd a ddaw yn ystod y misoedd nesaf.
“Ni fyddai’n ffermwyr na’r gwleidyddion wedi gallu rhagweld rhyfel Rwsia ar yr Wcráin, rhyfel sydd wedi arwain at gynnydd syfrdanol yng nghostau gwrtaith, tanwydd a phorthiant.
“Fyddai fawr neb wedi rhagweld chwaith y tywydd eithafol gafwyd yn ystod 2022.
“Fel y dywedwyd droeon yn y blynyddoedd diwethaf yng nghyd-destun coronafirws, ymosodiad Rwsia ar ei cymydog, newid hinsawdd neu ethol Liz Truss yn Brif Weinidog – yr unig beth sy’n sicr am y dyfodol yw ei ansicrwydd.”
‘Mantais amlwg’
“Serch hynny, wrth inni edrych ymlaen at 2023 mae gennym fantais amlwg,” meddai Glyn Roberts wedyn.
“Mae’r tair blynedd diwethaf wedi profi’n glir pa mor gyflym y gall y byd newid mewn ffyrdd sydd bron yn annirnadwy, a gobeithio bydd rhai o’r gwleidyddion hynny sy’n gweld gwleidyddiaeth fel gêm tan yr etholiad nesaf yn dechrau sylweddoli bod angen llywodraethu gyda buddiannau cenedlaethol tymor hir mewn golwg.
“Bellach, mae ein gwleidyddion yn gwybod y gall hyd yn oed pandemig cymharol gymedrol fygwth yn gyflym ein cadwyni cyflenwi allweddol yn lleol a byd-eang.
“Yr ydym wedi gwled fel y gall digwyddiadau sydyn, megis ymosodiadau ar wledydd sy’n allweddol o ran cynhyrchiant bwyd arwain at brinder byd-eang o nwyddau hanfodol sy’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol yn bwydo ein poblogaeth a chadw’r gwres a’r goleuadau ymlaen.
“Ar ddechrau mis Mawrth 2022, fe wnaethom rybuddio arweinwyr gwleidyddol ychydig ddiwrnodau wedi ymosodiadau Rwsia y byddai ymgais Rwsia i oresgyn yr Wcráin yn debygol o gael ôl-effeithiau negyddol am flynyddoedd.
“Mae’r holl dystiolaeth sydd ar gael ddeg mis yn ddiweddarach yn awgrymu fod hyn yn wir ac am greu problemau trwy gydol 2023 a thu hwnt.
“Felly, yn 2023 mae gan ein gwleidyddion gyfle i wrthdroi’r duedd o fychanu pwysigrwydd diogelwch bwyd y Deyrnas Unedig a thanseilio’r ffermydd teuluol sy’n asgwrn cefn cynhyrchu bwyd domestig.
“Fe allant gefnogi’r angen am gam cadarnhaol o’r fath gyda thystiolaeth gadarn, sydd i’w weld y amlwg ar silff pob archfarchnad.
“Mae’r hyn sy’n digwydd o fewn ein diwydiant wyau a chywion ieir yn dysteb i’r hyn all digwydd i’r gadwyn gyfleniw fwyd oni bai ein bod yn gweithredu.
“Wrth i ni edrych dros y ffin i Loegr, lle cafodd taliadau sylfaenol eu torri o fwy nag 20% yn 2022 a dim golwg o gynllun cydlynol yn ei le, rhybuddiodd swyddogion yr NFU yn Lloegr am effeithiau difrifol ar ffermwyr Lloegr a chynhyrchu bwyd.
“Fe allwn ac fe ddylwn fod yn ddiolchgar bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar lobïo brwd a chadarn Undeb Amaethwyr Cymru a symud oddi wrth y polisïau Seisnig yr oedd wedi’u paratoi’n wreiddiol.
“O fod wedi arafu mae’r cyfle’n bodoli i osod ffermydd teuluol, yr economi wledig, cynhyrchu bwyd a diwylliant y Gymru wledig yn uchel ar agenda’r Llywodraeth. Nid cyn pryd efallai ond gwell hwyr na hwyrach.”
‘Blwyddyn dyngedfennol’
“Fodd bynnag, bydd 2023 yn flwyddyn dyngedfennol o ran gweld a yw Llafur Cymru ac Aelodau o’r Senedd yn fodlon cefnogi Deddf Amaethyddiaeth i Gymru a fydd yn diffinio amaethyddiaeth ein cenedl am genhedlaeth neu fwy,” meddai wedyn.
“Gyda Bil Amaethyddiaeth (Cymru) eisoes wedi’i gyflwyno i’r Senedd, bydd yna lawer o adolygu a newidiadau i’r Bil ar ddechrau 2023, ac mae gan UAC lawer iawn o waith i’w wneud o ran ceisio sicrhau newidiadau a fydd yn gwireddu’r addewidion i gadw ffermwyr ar y tir, diogelu cynhyrchu bwyd a sicrhau dyfodol yr economi wledig.
“Unwaith bydd y Bil wedi cael Cydsyniad Brenhinol, bydd yn dod yn ddeddfwriaeth ymbarél ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) a fydd yn disodli’r system gymorth bresennol ar ôl 2024.
“Gyda’r gwaith yn parhau ar ‘gyd-ddylunio’ y cynllun, gwaith sydd ar y gweill ers cyhoeddi cynigion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ym mis Gorffennaf 2022, bydd gwaith yr Undeb, sy’n anelu at sicrhau bod y cynigion yn llawer mwy ymarferol nag a gynigir ar hyn o bryd, hefyd yn parhau yn 2023.
“Beth bynnag fo ffurf cynlluniau newydd yng Nghymru (neu weddill y DU o ran hynny), bydd y gyllideb a fydd ar gael gan Lywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru yn hollbwysig i gyflawni amcanion y cynllun a chynnal ffermydd teuluol a chynhyrchu bwyd.
“Er bod iaith Llywodraeth Cymru yn sicr yn ymddangos yn fwy cydymdeimladol at anghenion ein cymunedau amaethyddol mae’r parodrwydd i dorri £9m o’r gyllideb materion gwledig yn 2023-2024, er gwaethaf cynnydd bach yng nghyfanswm cyllid Llywodraeth Cymru, a ffigurau a ryddhawyd ochr yn ochr â’r Bil Amaethyddiaeth yn destun braw.
“Mae hefyd yn fater o bryder fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau i fynnu bod modd cyfiawnhau lleihau cyllideb PAC Cymru o £250m.
“Mae camau o’r fath yn gwbl groes i ddatblygiadau yn yr UE, sy’n parhau i warantu cyllideb amlflwydd ac sydd wedi cymeradwyo biliynau o wariant i gefnogi ffermwyr sy’n cael trafferth gyda chostau porthiant a gwrtaith ychwanegol.
“Mae hefyd yn ymddangos yn debygol yn 2023 y bydd yr Undeb Ewropeaidd yn ildio’i reolau ar sut y cefnogir ynni adnewyddadwy, ac mae’n hanfodol bod Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig yn dilyn yr un trywydd drwy ddarparu cymorth sy’n adfer twf mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar ffermydd.
“Fe fyddai hyn yn gam fyddai’n ategu a diogelu ffynonellau ynni’r Deyrnas Unedig yn y dyfodol ac yn lleihau ôl troed carbon amaethyddiaeth wrth ddarparu incwm pwysig i deuluoedd ffermio.
“Yr hyn sy’n peri pryder mwy uniongyrchol i ffermwyr Cymru yw’r angen i gydymffurfio â llu o ofynion newydd ac anodd iawn a gyflwynwyd yn y Rheoliadau Adnoddau Dŵr [NVZ] a hynny o’r 1af o Ionawr 2023 ymlaen.
“Mae yna le i ddiolch fod cyfnod maith o lobïo di-baid wedi arwain at newid bychan o ran terfyn nitrogen blynyddol fferm gyfan o 170kg fesul hectar i 250kg ac yr ydym yn croesawu’r newid hwn.
“Serch hynny, fe fydd effaith y rheoliadau ychwanegol a ddaw i rym yn 2023 yn sylweddol gan olygu y bydd degau o filoedd o ffermwyr Cymru yn treulio cyfnod y Nadolig yn straffaglu gyda chyfrifiadau cymhleth ac ymarferion mapio y byddai hyd yn oed y gwleidyddion a’r gweision sifil mwyaf addysgedig yn cael trafferth gyda nhw.
“Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn parhau i edrych ar sut y gall gynorthwyo aelodau gyda gwaith papur mor gymhleth, ac i’r perwyl hwn rydym wedi ysgrifennu at y Gweinidog, Lesley Griffiths, yn ei hannog i ddefnyddio’r SAF a data arall sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i ddarparu dogfennau wedi’u llenwi ymlaen llaw a mapiau sy’n helpu ffermwyr.
“Mae gofynion newydd o’r fath, ynghyd â llu o gynigion ar gyfer deddfwriaeth newydd na fydd yn berthnasol i ffermwyr yn yr Undeb Ewropeaidd, yn atgyfnerthu unwaith yn rhagor y rhesymau pam y bu i Undeb Amaethwyr Cymru ddadlau y byddai Brexit yn debygol o arwain at fwy, nid llai, o waith papur i ffermwyr Cymru.
“Tydi gweld hyn yn dod yn wir ddim yn fater o falchder ac fe wnawn barhau i ymgyrchu i drio rheoli’r fath newidiadau.
“Pa bynnag faterion sy’n codi yn 2023, mae Undeb Amaethwyr Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i frwydro dros fuddiannau ein aelodau ym mhob rhan o Gymru.
“Fe fyddwn yn parhau i ddarparu gwasanaethau wyneb yn wyneb hanfodol ar lefel sirol – gwaith na fyddai’n bosibl heb ymrwymiad ein swyddogion etholedig a’n staff, ac mae ein dyled yn fawr iddynt.
“Dymunaf y gorau i chi ar gyfer y flwyddyn newydd gan obeithio y bydd 2023 yn flwyddyn ffyniannus.”