Nid Duw pell yw’r Duw Cristnogol, ond grym daionus a chyfiawn sy’n sefyll gyda’n nyrsys ar y llinell biced a chyda’r ceiswyr lloches sy’n glanio ar draethau’r Sianel, yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, sy’n cynrychioli Cristnogion mewn 350 o gapeli ledled Cymru.

Daw sylwadau Dyfrig Rees yn neges flynyddol yr enwad ar drothwy’r Flwyddyn Newydd.

“Yn y cyfamser, mae stori’r Hen Destament yn parhau i fod yn stori i’n hamserau ninnau hefyd,” meddai.

“Y mae ymadawiad ffoaduriaid o Wcráin yn ganlyniad uniongyrchol i Ffaro o’n dyddiau ni’n ceisio ymestyn a helaethu ei ymerodraeth.

“Y mae gwrthdrawiadau ac erledigaethau eraill yn y Dwyrain Canol ac Affrica yn gyrru niferoedd dirifedi o geiswyr lloches i groesi’r Sianel, yn union fel y gwnaeth yr Israeliaid groesi’r Môr Coch.

“Nid yw’r dyfroedd yn agor i ffoaduriaid y dyddiau hyn, ond gallwn agor ein gwlad a’n calonnau iddyn nhw.

“Ac yn ein cymunedau, mae’n dorcalonnus fod nyrsys a staff ymroddgar a gofalgar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi’u gyrru i streicio fel gweithred pan nad oes dim arall yn tycio.

“Mae’n profi fod anghyfiawnder, cyflwr sydd i’r gwrthwyneb i natur Duw, yn medru bod yn economaidd yn ogystal ag yn wleidyddol.

“Yn y flwyddyn 2023, boed i ni droi’r dudalen i neges y Testament Newydd, ble mae cariad Duw, fel ag y datguddiwyd yn Iesu Grist, yn goroesi’r cylch diddiwedd o anghyfiawnder, trachwant, casineb a dioddefaint.

“Byddai’r fath benderfyniad yn gwneud y byd hwn yn un tra gwahanol ac yn lle cymaint yn well i ni a chenedlaethau’r dyfodol fyw ynddo.

“Dymunaf Blwyddyn Newydd Dda i bawb.”