Yn ei neges Blwyddyn Newydd, mae Prif Weinidog Cymru yn canmol parodrwydd pobol i helpu’i gilydd yn ystod “blwyddyn anodd”.

Gyda phobol yn agor eu cartrefi i filoedd o Wcráin a chymunedau’n rhoi cymorth i’w gilydd yn sgil yr argyfwng costau byw, “rydym wedi gweld cryfder a gwir garedigrwydd”, meddai Mark Drakeford.

Gofynna hefyd i bobol obeithio am heddwch yn 2023, ac am flwyddyn hapusach.

“Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd,” meddai Mark Drakeford yn ei neges.

“Gobeithio i chi gael Nadolig llawen a heddychlon.

“Wrth i 2022 ddod i ben, bydd llawer yn falch o weld diwedd blwyddyn anodd.

“Hon oedd blwyddyn lansio rhyfel creulon Rwsia yn erbyn Wcráin.

“Lladdwyd miloedd, ac mae miliynau wedi gorfod ffoi o’u cartrefi.

“A dros y deuddeg mis diwethaf mae’r argyfwng costau byw wedi gwaethygu.

“Mae’n fwy anodd cael dau ben llinyn ynghyd.

“Ond, hyd yn oed yn y cyfnod anodd hwn, mae pobol wedi bod mor barod i helpu eraill.

“Rydym wedi gweld cryfder a gwir garedigrwydd.

“Mae pobol wedi agor eu cartrefi i filoedd o bobl o Wcráin, gan gynnig noddfa a diogelwch yma yng Nghymru.

“Ac unwaith eto, mae cymunedau wedi ymuno i helpu ei gilydd yn yr argyfwng costau byw – yn union fel yn y pandemig.

“Mae Blwyddyn Newydd yn ddechrau newydd ac rwy’n siŵr bod gan bawb eu gobeithion a’u dymuniadau am y flwyddyn nesaf.

“Dewch inni obeithio am heddwch yn 2023, ac amser hapusach i ddod.

“Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd.”