Mae grŵp ceir o’r gogledd wedi cael blwyddyn i’w chofio, rhwng cael cyfres deledu a chynnal sioe foduron a ddenodd dros fil o ymwelwyr.
Bydd Unit Thirteen, grŵp ceir sydd wedi’i leoli ym Mangor, yn dychwelyd am gyfres newydd ar Hansh yn fuan.
Y grŵp ydy canolbwynt y gyfres Pen Petrol, sy’n edrych ar sîn ceir y gogledd o bob ongl.
Mae Unit Thirteen yn cynnwys degau o aelodau ar draws Gwynedd ac Ynys Môn sy’n arbenigo mewn addasu ceir.
Yn ogystal â chynnal sioe foduro Unity yn Ynys Môn dros yr haf, gan ddenu cannoedd o geir nodweddiadol a dros fil o ymwelwyr o bob rhan o wledydd Prydain, mae’r grŵp wedi cychwyn partneriaethau gyda garejis a chwmnïoedd tiwnio ceir lleol dros y flwyddyn ddiwethaf.
Maen nhw wedi bod yn cydweithio gyda Choleg Menai i helpu myfyrwyr ar eu cwrs moduro hefyd.
‘Wedi chwythu fyny’
Yn ôl sylfaenydd Unit Thirteen, Craig Gilmour, mae’r gyfres wedi gwneud y grŵp yn un mwy adnabyddus.
“Dim ond fi a dau o hogiau arall ddechreuodd o ac ar ôl dwy flynedd, neshi gymryd y reins fy hun a dechrau tudalen Instagram a Facebook i’r grŵp,” eglura.
“Dwy neu dair blynedd wedyn, nes i ail-frandio i’r deunydd ‘thrtn’ da ni’n defnyddio rŵan, a chadw’r grŵp yn dynn ac yn fach.
“Ers Pen Petrol, dw i’n gweld llwyth o geir efo sticeri Unit Thirteen, ceir dw i ddim yn hyd yn oed yn nabod.
“Dw i’n mynd i Tesco Bangor ac mae mrs fi yn pwyntio allan hogiau ifanc sy’n gwisgo t-shirts ‘thrtn’!
“Rydyn ni mewn cyswllt efo pobl o Lundain rŵan, sydd yn cynrychioli’n brand ni yn Lloegr, fel brand ambassadors.
“Mae o’n exciting, a nuts rili. Rhywbeth bach rhwng ffrindiau oedd o i ddechrau, ac mae o wedi chwythu i fyny rŵan.
“Doedd yna ddim aspirations i dyfu’r brand, jyst rhywbeth i ni oedd o, i gynrychioli ein hunain mewn sioeau. Ond rŵan, mae o wedi explodio mewn i frand!”
‘Reputation da erioed’
Mae’r rhaglen yn dangos bod pawb sy’n hoffi addasu ceir “ddim jyst isio gwneud twrw”, meddai un aelod o’r grŵp, Aaron ‘Slim’ Lewis.
“Rydyn ni’n griw o ffrindiau sydd dipyn bach yn hŷn, yn ein 20au hwyr a 30au, ac ella bod hynny’n ffactor.
“Ond rydyn ni wedi bod hefo reputation da erioed a phobol yn gwybod bod ni ddim yn idiots sy’n dreifio’n beryglus.
“Rydyn ni efo lot o bobol sy’n gwybod lot am geir, ac rydyn ni’n dod at ein gilydd i adeiladu ceir. Mae’n gymuned grêt i fod yn rhan ohono.”
Wedi llwyddiant y sioe Unity cyntaf, bydd y digwyddiad yn dychwelyd i Gae Sioe Mona ar 16 Gorffennaf 2023 a bydd rhaglen gyntaf y gyfres newydd yn dangos faint o waith yw trefnu digwyddiad o’r maint hwnnw.
“Roedden ni wedi sôn am wneud sioe ers blynyddoedd, ond roedden ni bach yn nerfus na fysa fo’n llwyddiant,” meddai Aaron Lewis.
“Ond ar ôl i bobl wylio Pen Petrol, wnaethon ni benderfynu mai dyna’r amser gorau i fynd amdani.”
Mynd â’r sioe ar daith
Y gobaith ydy mynd â’r sioe geir ar grwydr yn y dyfodol, meddai sylfaenydd Unit Thirteen.
“Gobeithio efo llwyddiant y sioe, fedrwn ni edrych ar lefydd arall yn y dyfodol hefyd, ella o gwmpas ardal Llandudno,” meddai Craig Gilmour.
“Ac os ydi pethau am dyfu’n iawn, ella allwn ni drefnu mwy nag un sioe’r flwyddyn.
“Rydyn ni eisiau agor tudalen YouTube nesaf a chasglu gymaint o gynnwys a fedrwn ni ar gyfer hwnna, dangos projects pobol a chasgliadau ceir pobol ar draws gogledd Cymru. So gobeithio medrwn ni barhau i dyfu yn y flwyddyn newydd.”
- Bydd Pen Petrol ar S4C am 9:30yh nos Lun, Ionawr 2. Mae’r gyfres ar gael i wylio ar dudalen YouTube Hansh hefyd.