Mae rhai o selogion y sîn ac ambell wyneb newydd wedi bod wrthi’n rhyddhau cerddoriaeth newydd eleni.

Wrth i 2022 ddirwyn i ben, gohebwyr a golygyddion Golwg a golwg360 sydd wedi bod yn ystyried eu hoff albyms ac EPs.

Lowri Larsen – gohebydd bro360

Fy hoff albwm o 2022 yw islais a genir gan VRï. Prif destun yr albwm yw bywydau pobol oherwydd cyflogau isel a gwaith caled.

Mae emosiwn i’w deimlo drwy’r gerddoriaeth – cerddoriaeth werin Gymreig, a braf yw gweld y gerddoriaeth werin yma’n cael ei hadfywio.

Fy hoff gân ar yr albwm yw ‘Y Gaseg Ddu’. Mwynheais y traed yn cael eu taro yn arbennig. Mae’r canwr yn gofyn am geiniog am ei gân am geffyl.

Cadi Dafydd – uwch ohebydd

Ar ôl noson hudolus yn yr Ysgwrn yng nghwmni Pedair ym mis Medi eleni, mae mae ‘na olau wedi cael ei chwarae dro ar ôl tro gen i.

Swynwyd yr holl stafell gan harmonïau tynn ac alawon hyfryd Siân James, Meinir Gwilym, Gwyneth Glyn a Gwenan Gibbard, ac mae gwrando ar eu halbym cyntaf yn rhoi’r un wefr, bron â bod.

Ella ’mod i’n mynd yn sentimental, ond peth braf ydy bod yng nghwmni torf sy’n gwrando ar bob nodyn ac yn gwerthfawrogi bob gair, a bron bod yna rywbeth ysbrydol am y noson honno.

Mae ‘Dawns y Delyn’ yn sefyll allan ar yr albwm.

Pedair. Llun: Iolo Penri

Barry Thomas – golygydd Golwg

Ddyla neb farnu llyfr yn ôl ei glawr, ond ydy hi’n deg i farnu EP yn ôl y clawr?

Ydy siŵr, pan mae’r clawr mor hyfryd o bowld ag un Chroma!

Nôl ym mis Awst wnaeth y band o’r Cymoedd ryddhau Llygredd Gweledol gyda llun ar glawr yr EP o ben-ôl prif leisydd y band, Katie Hall, mewn dillad isaf sidan syfrdanol o chwaethus.

Clawr yr EP Llygredd Gweledol gan y band Chroma

Ac fel tase hynny ddim yn ddigon, roedd ar un o’i bochau datŵ o’r gair ‘annibyniaeth’.

Byddwch yn onest, mae dadleuon am Gymru Rydd yn medru bod yn syrffedus ar y naw, felly mae angen tamaid o gnawd a thatŵ nawr ac yn y man, i sgafnu pethau.

A beth am y gerddoriaeth, fe’ch clywaf yn gofyn…

Wel, mae Chroma yn fand roc ffynci a thrwm gyda sŵn anfarwol o amrwd sy’n ofnadwy o cool.

Dychmygwch daflu Blondie, y Manics ag Estrons fewn i’r bowlen salad seinyddol, a dyna i chi flas Chroma. Ella.

Hoff drac yr EP – ‘Weithiau’. Cân felodig wych hiraethus angsti.


Hefyd eleni, fues i’n ailymweld efo stwff Dyfrig Evans, wnaeth ein gadael ni nôl ym mis Mai, a chael fy atgoffa o ba mor wych ydy rhai o ganeuon ei albwm unigol, Idiom, gafodd ei rhyddhau yn 2006.

Tra bod ei ganeuon gyda’r band Topper yn adnabyddus iawn, chafodd Idiom ddim yn agos at y sylw roedd hi’n ei haeddu.

Mae ‘Gwas y Diafol’, ‘Byw i’r funud’ a ‘Cyllell yn dy gefn’ yn ganeuon gwych sy’n syth o’r galon.

Ac mae’r gân Dolig wnaeth Dyfrig ryddhau yn 2020, ‘Mae gen i angel’, yn glincar hefyd.

Alun Rhys Chivers – golygydd golwg360

Ydw i’n ateb y briff wrth ddewis albwm sydd ag ond un gân Gymraeg? Sa i’n hollol siwr!

Ond albwm y flwyddyn i fi eleni yw Tresor gan Gwenno, gafodd ei enwebu am y Wobr Mercury ochr yn ochr â gwaith Harry Styles a Sam Fender, ymhlith enwau mawr eraill. Hwn yw trydydd albwm unigol Gwenno, a’r ail sy’ bron iawn yn uniaith Gernyweg. Cafodd ei gyfansoddi gan Gwenno ym Mhorth Ia (St Ives) yn ystod cyfnod clo 2020, ei recordio yn Din Lligwy ym Môn, a’i gynhyrchu gan Rhys Edwards.

Mae naws breuddwydiol yr albwm yn ein tywys i fyd arall, lle mae modd “dyank rag an lettow” (dianc rhag y cyfyngiadau), meddai’r trac ‘Porth Ia’. Mae’r ‘byd breuddwydiol’ yma’n dechrau gydag ‘An Stevel Nowydh”, lle mae’r llais sy’n atseinio’n atgoffa rhywun o’r llinell “Be quiet, big girls don’t cry” gan 10CC. Awn i baradwys yn y trac ‘Anima’, a chael gobaith o “godi eto” yn ‘Tresor’. Awn i fyd ail gartrefi yn ‘N.Y.C.A.W. (Nid Yw Cymru Ar Werth)’, ar ôl trac offerynnol ‘Men An Toll’. Yr her yn ‘Ardamm’ yw “Ple ma dha famyeth?” (ble mae dy famiaith?) cyn mynd ar daith drwy’r tymhorau yn ‘Kan Me’, sy’n agor gyda’r delyn, gan ein hatgoffa ni o hunaniaeth ddeuol y gantores. Mae’n anodd peidio teimlo ein bod ni o dan y tonnau yn ‘Tonnow’ (lle gwell i guddio yn ystod pandemig?).

Os y’ch chi, fel fi, yn hoff o gael albwm neu EP bach yn eich hosan Nadolig, ’sdim eisiau i chi edrych ymhellach na hwn.

Lluniau Tresor: Claire Marie Bailey

Huw Bebb – gohebydd seneddol

Stella Donnelly – Flood. Efallai ’mod i’n twyllo fan hyn gan fod pob cân ar yr albym yn uniaith Saesneg a’r artist yn byw yn Awstralia. Ond gan fod Stella Donnelly wedi’i geni a’i magu yn Abertawe, cyn symud i Perth, Awstralia, yn hogan ifanc dw i’n ei gyfrif!

Y rheswm arall dros ei ddewis yw ei fod yn albym gwirioneddol arbennig. Mae’r casgliad yn dilyn ei halbym cyntaf – Beware of the Dogs – sy’n llawn caneuon bywiog a negeseuon cryf ar wleidyddiaeth, misogyny, a thrais rhywiol. Y tro hwn mae Stella yn treulio rhan helaeth o’r albym yn chwarae’r piano, ac er bod tempo’r caneuon yn llawer arafach na’r albym cyntaf dyw’r safon yn sicr ddim wedi gostwng.

Bethan Lloyd – golygydd Lingo

ParallelLines – Blondie. Dyma oedd yr albym cyntaf brynodd fy chwaer yn 14 oed nôl yn 1978. Ro’n i’n 10 oed ac wedi cael fy nghyfareddu gan ‘Sunday Girl’, ‘Heart of Glass’ a ‘Picture This’.

Yn ddiweddar mi wnes i brynu copi finyl i fy merch – braf gweld y genhedlaeth nesaf yn mwynhau’r hen glasuron.

Elin Owen – gohebydd digidol

Dw i’n un wael am ddewis ffefryn o unrhyw beth, yn enwedig pan mae hi’n dod at gerddoriaeth. Ond fydd rhaid i fi ddweud hefyd mai Tresor gan Gwenno oedd hoff albwm fi o 2022.

Ers ei gweld hi’n perfformio yng Ngŵyl Sŵn yn 2018, dw i wedi bod yn hooked, ac fe ges i’r fraint o’i gweld hi’n perfformio’r albwm mewn hen eglwys yn y Rhath ychydig fisoedd yn ôl.

Er bod ‘N.Y.C.A.W. (Nid yw Cymru ar Werth)’ yn iaith ei mamwlad, mae gweddill Tresor yn y Gernyweg, fel ei hail albwm, Le Kov. Ac mae’n teimlo fel bod Gwenno yn dawel bach yn arwain chwyldro i adfer y Gernyweg i’w hen ogoniant.