Roedd 2022 yn flwyddyn ddigon prysur ym myd cyhoeddi, o ddychweliad yr Eisteddfod Genedlaethol a’r prif wobrau i gyhoeddi sawl cyfrol yn dathlu llwyddiant y tîm pêl-droed.
Ond, mae’n amlwg bod un nofel wedi mynd â bryd sawl un o weithwyr Golwg…
Barry Thomas – golygydd Golwg
Yn 2021 cyhoeddwyd Mori, nofel Ffion Dafis, a dyna pryd wnes i ei darllen hi am y tro cyntaf, a’i mwynhau yn arw hefyd.
Ond wedi iddi ddod i’r brig yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn ym mis Gorffennaf, wnes i ailddarllen y nofel, a dyma pam: wrth wrando ar Ffion yn trafod Mori ar y radio, wnes i sylweddoli bo fi wedi methu lot fawr o bethau ar y darlleniad cyntaf.
Nôl yn 2021, wnes i larpio’r nofel mewn deuddydd, a’i chael hi yn page turner go-iawn.
Ond o’i hailddarllen, wnes i sylwi fwy ar yr elfennau ychwanegol yna roedd Ffion wedi eu crybwyll yn ei chyfweliad radio.
Mae hi’n nofel am gymeriad anarferol sy’n cuddio yn y tywyllwch, er mwyn gallu gwylio pobol ddosbarth canol arferol iawn a’u bywydau ff*cd yp.
Tydi hi ddim yn nofel berffaith – mae’r diweddglo fel rhywbeth o opera sebon.
Ond mae lot yma i gnoi cil arno, a stwff sydd ddim wedi ei drafod yn Gymraeg o’r blaen – megis y ferch ifanc sy’n perfformio yn noeth lymun o flaen camera ar gyfer cwsmeriaid ar y We.
Naw allan o ddeg i Mori, felly, a difyr fydd gweld be’ gawn ni nesa gan Ffion.
Lowri Larsen – gohebydd bro360
Fy hoff lyfr o 2022 yw Mori gan Ffion Dafis. Mae’r yfed trwm y mae Mori yn gwneud yn adlewyrchiad o realiti a chymdeithas.
Yr oes fodern sy’n cael ei bortreadu gyda Facebook yn ganolog i’r stori. Mae’r nofel yn dangos sut mae pobol yn portreadu eu hunain fel y maent eisiau cael eu gweld ar Facebook, sy’n bortread teg.
Mae cymhlethdodau cymeriadau a’u bywydau yn cael ei bortreadu yn gryf, a deallwn drwy’r llyfr nad yw pobol yn syml.
Cadi Dafydd – Uwch ohebydd
Am ddawn dweud a gallu i greu darluniau mor fyw a chlir, nofel gyntaf Llŷr Titus i oedolion dynnodd fy sylw dros y flwyddyn. Bywyd cefn gwlad, a hwnnw o safbwynt yr Hen Ŵr, sydd dan sylw yn Pridd, ond mae Llŷr yn llwyddo i osgoi disgrifiadau ystrydebol o’r hen ffermwr a’i fyfyrdodau am ei filltir sgwâr.
Er nad oes yna asgwrn amaethyddol yn fy nghorff i, fe wnaeth y nofel lwyddo i gydio ac mae ambell frawddeg dal i aros yn y cof, fel ‘Os aeth o yn chwyn ei ddyddiau, yn be mae’r Hen Ŵr bellach?’, cyn iddo ddod i’r casgliad ei fod yn “esgyrn chwyn” ei ddyddiau.
Am droedio tir cwbl newydd yn y Gymraeg, mae nofel gyntaf Gwenllian Ellis, Sgen i’m Syniad, yn haeddu shout-out hefyd.
Elin Owen – gohebydd digidol
Heb os, Rhyngom gan enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Tregaron yw fy hoff lyfr o 2022.
Casgliad o straeon byrion sy’n archwilio bywyd o sawl ongl ydy’r gyfrol, o safbwynt bydwraig sy’n cael trafferth beichiogi i roi ei hun yn esgidiau ffoadur sy’n gorfod ffoi Afghanistan i geisio noddfa yn Lloegr.
Mae hi’n dangos hyder wrth daflu ei hun mewn i bob sefyllfa, ac mae’n amlwg bod cryn dipyn o ymchwilio wedi bod i sgrifennu’r gyfrol fuddugol.
Dw i bellach ar fy ail ddarlleniad ac mae hynny’n dweud y cwbl lot…
Alun Rhys Chivers – golygydd golwg360
Cyfres o straeon byrion ddaliodd fy sylw i fwyaf yn 2022. Mae Stryd y Gwystlon (Y Lolfa) gan Jason Morgan, colofnydd Golwg, yn mynd â ni i sawl cyfeiriad – ac i ambell gyfeiriad annisgwyl hefyd. Wedi’u lleoli ar un stryd yn y gogledd, mae straeon Rhif 1-7 yn mynd â ni i fywydau cymeriadau amrywiol mewn saith tŷ ar yr un stryd yn y gogledd (“Profiadau mawr bywyd wedi’u profi ar stryd fach,” chwedl broliant Delyth Jewell).
Digon swreal yw stori Rhif 1 (o safbwynt ci, a’r awdur wedi rhannu ei hoffter o gŵn ar dudalennau Golwg) a Rhif 5 sydd hefyd yn adrodd y stori o safbwynt anifeiliaid. Ond mae digon o bynciau dwys hefyd – galar, dirywiad crefydd a chymdeithas, y berthynas rhwng pobol, hiraeth ac euogrwydd ar ôl colled, byd astrus y cyfryngau cymdeithasol, agweddau estroniaid at Gymru a’r Gymraeg, a iechyd meddwl.
Cyfrol afaelgar yw hon, sy’n llawn straeon i’w darllen yn unigol, ond sydd hefyd yn cyd-blethu’n gelfydd gyda’r ergyd arferol y gallech ei disgwyl gan yr awdur. Mae rhai straeon yn well na’i gilydd, serch hynny.
Bydd rhaid i chi ddarllen hyd y diwedd i gael gweld yng ngofal pwy mae’r ci yn niwedd y gyfrol…
Non Tudur – gohebydd celfyddydau
Fy hoff lyfr i yn 2022 oedd Dros y Môr a’r Mynyddoedd: Straeon Merched Dewr y Celtiaid (Carreg Gwalch). Fel pob un o’r llyfrau plant gorau, dyma lyfr plant y byddai oedolion hefyd yn ei fwynhau. Ac am syniad da gan y wasg – gwahodd criw o awduron da i ail-sgrifennu rhai o chwedlau’r gwledydd Celtaidd, a rhoi’r pwyslais ar y merched ynddyn nhw.
Mae ambell i stori yn adnabyddus i lawer. Braf gweld mai Angharad Tomos – un o’n storïwyr gorau sy’n fyw heddiw – a gafodd y dasg o ail-sgrifennu’r chwedl Wyddelig hoff honno am serch a hiraeth, Nia Ben Aur. Mae hi wedi rhoi blas y presennol ar ei fersiwn hi o stori Nia ac Osian, fab brenin Erin. Mae’n cydio o’r frawddeg gyntaf: ‘Roedd Nia Ben Aur wedi cael llond bol. Doedd dim yn digwydd yn Nhir na-nÓg.’
Yr awduron eraill yw Haf Llewelyn, Mari George, Aneirin Karadog, Myrddin ap Dafydd, Anni Llŷn a Branwen Williams. Maen nhw’n rhoi gwedd newydd i straeon o Gernyw, Llydaw, yr Alban, Ynys Manaw, a Galisia. Mae yma hefyd ambell i stori Gymreig lai adnabyddus, fel yr un am dylwyth teg Castell Penârd.
Oherwydd Brexit, ry’n ni fel pe paen ni wedi pellhau oddi wrth rhai o’r gwledydd yma, ac mae’r llyfr yn ein hatgoffa o’r hen, hen gysylltiadau sydd rhyngom, ac yn ein closio atyn nhw eto. Mae’n werth ei brynu pe bai ond i weld dawn arbennig yr arlunydd Elin Manon, sy’n byw yng Nghernyw ond yn hanu o Gaerdydd.
Ac os caf roi plyg i un ddau lyfr arall a ddaeth allan cyn y Nadolig. Mae Caneuon Meic Stevens, heb air o gelwydd, yn llyfr sy’n anhepgor i unrhyw ffan o gerddoriaeth y canwr gwerin. Mae wedi ei olygu a’i gynllunio gan Alun Ceri Jones o wasg Dalen. Mae ynddo ffotograffau arbennig, nifer fawr ohonyn nhw’n rhai anghyfarwydd i ni; holl eiriau ei ganeuon yn Gymraeg ac yn Saesneg; ac mae’r diwyg a’r dylunio o’r radd uchaf, gystal ag unrhyw gyhoeddiad rhyngwladol o safon.
Ond rhagair ardderchog Dafydd Jones sydd yn goron ar y cyfan. Mae’n fywgraffiad difyr a dadlennol, yn crynhoi holl hanes recordiau cynnar Meic a manylion ei anturiaethau yn Llundain a chael llwyfan ar y BBC yng Nghymru, yn esbonio sut y sefydlodd y grŵp pop dychan Bara Menyn gyda Geraint Jarman a Heather Jones, ac yn rhoi cefndir geiriau’r caneuon a chyfraniad llenorion fel Hywel Gwynfryn a Rhydwen Williams i’w gampweithiau. Ei hanes yn dwt, ac ymdriniaeth barchus o yrfa hynod gynhyrchiol.
Wedyn, nofel fach dditectif eto gan Wasg Carreg Gwalch – Darogan gan Siân Llywelyn. Joch da o hanes Cymru mewn nofel dditectif afaelgar iawn. Mwynhewch!
Bethan Lloyd – golygydd Lingo
Mori – Ffion Dafis. Fe fu dipyn o frolio o Mori a gipiodd Llyfr y Flwyddyn 2022 felly dyma brynu copi i weld be oedd y ffỳs i gyd – a’i ddarllen mewn un eisteddiad! Gafaelgar, gwahanol a gwerth yr heip.
Huw Bebb – gohebydd seneddol
Sgen i’m Syniad – Gwenllian Ellis. Mae nofelau Cymraeg yn gallu bod yn bethau digon surbwch a diflas yn fy marn i. Yn aml mae rhywun yn gweld yr un math o themâu yn codi a’r un darlun o’r Gymru gyfoes yn cael ei chyfleu.
Rhaid dweud bod Sgen i’m Syniad gan Gwenllian Elis wedi bod yn chwa o awyr iach. Yn ddoniol a ffraeth drwyddi draw, dyma nofel onest sy’n sicr wedi aros yn y cof!