Bydd syrcas gyfoes fyd-enwog a gŵyl ffuglen drosedd ryngwladol yn cael eu cynnal yng Nghymru’r flwyddyn hon.

Fe fydd y Pentref Syrcas yn dod i Abertawe am y tro cyntaf dan arweiniad NoFit State Circus, syrcas sydd wedi ennill bri rhyngwladol.

Yn sgil cyllid gan Lywodraeth Cymru hefyd, bydd Gŵyl Crime Cymru yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb yn Aberystwyth am y tro cyntaf.

Y Pentref Syrcas

Yn Abertawe, bydd NoFit State yn croesawu tua 200 o artistiaid syrcas y Deyrnas Unedig i gymryd rhan mewn rhaglen datblygiad proffesiynol.

Cafodd y Pentref Syrcas ei gynnal am y tro cyntaf 2021, a’r tro hwn bydd y cyfranwyr yn byw, gweithio a chreu gyda’i gilydd ar safle pwrpasol, a phenllanw’r digwyddiad fydd dathliad cyhoeddus a Gŵyl Syrcas dridiau o hyd ym mis Ebrill 2023.

“Mae NoFit State yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth hael Llywodraeth Cymru i Bentref a Gŵyl Syrcas 2023,” meddai Tom Rack, Cyfarwyddwr Artistig NoFit State Circus.

“Diolch i’w buddsoddiad nhw, rydyn ni’n gallu ehangu’r prosiect Pentref Syrcas – sy’n canolbwyntio’n bennaf ar ddatblygu sgiliau ar gyfer gweithwyr syrcas proffesiynol – a chynnwys Gŵyl Syrcas gyhoeddus yn rhan ohono, gan roi cyfle i ni rannu syrcas gyfoes arloesol ac anhygoel gyda chynulleidfaoedd Cymru a’r Deyrnas Unedig.

“Tair Pabell Fawr, pedair sioe wahanol – fydd Abertawe ddim wedi gweld unrhyw beth tebyg erioed. Bydd yn ddiweddglo epig i brosiect epig.”

Gŵyl Crime Cymru

Mae Gŵyl Crime Cymru’n rhoi sylw i sêr y byd ffuglen drosedd yng Nghymru a thu hwnt, a’r nod yw sefydlu gŵyl ffuglen drosedd ryngwladol o safon fyd-eang.

Eleni fydd y tro cyntaf i’r ŵyl gael ei chynnal wyneb yn wyneb, ar ôl cael ei chynnal yn ddigidol yn 2021 a 2022.

Aberystwyth fydd cartref yr ŵyl, a fydd yn cael ei chynnal rhwng Ebrill 21 a 23 eleni ac yn cefnogi awduron i ddatblygu talent sgrifennu trosedd Gymreig a Chymraeg newydd hefyd.

Dywedodd Alis Hawkins, Cadeirydd Gŵyl Crime Cymru, bod y trefnwyr wrth eu boddau bod cefnogaeth cronfa Digwyddiadau Cymru Llywodraeth Cymru yn caniatáu iddyn nhw lwyfannu gŵyl ffuglen drosedd ryngwladol gyntaf erioed Cymru yn Aberystwyth.

“Rydyn ni wrth ein bodd bod yr angen am gynnal digwyddiad o’r fath wedi’i gydnabod ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gyflwyno’r digwyddiad ym mis Ebrill.”

Bydd FOCUS Wales, gŵyl gerddorol aml-leoliad flynyddoedd yn Wrecsam, yn parhau i dderbyn cyllid hefyd.