Mae deiseb yn gwrthwynebu torri oriau agor llyfrgelloedd yng Nghaerdydd wedi denu bron i ddau gant a hanner o lofnodau.

Yn ôl grŵp ymgyrchu Cardiff’s People Assembly, mae llyfrgelloedd y ddinas yn darparu gwasanaeth hanfodol i bobol fregus ac yn un o’r “gwasanaethau cyhoeddus mwyaf poblogaidd”.

Maen nhw hefyd o’r farn bod bwriad Cyngor Caerdydd i ddisodli staff proffesiynol gyda gwirfoddolwyr yn dangos nad ydynt yn “deall, nac yn gwerthfawrogi, rôl staff llyfrgelloedd proffesiynol”.

“Tacteg arferol”

“Mae cynigion Cyngor Caerdydd i dorri oriau agor y llyfrgell a recriwtio rhagor o wirfoddolwyr di-dâl yn dacteg arferol,” meddai datganiad ar y ddeiseb.

“Mae oriau agor yn cael eu torri, mae’r gwasanaeth yn cael ei redeg i lawr, mae’r defnydd yn disgyn wrth i drigolion ddarganfod nad yw eu llyfrgell leol ar agor pan maen nhw eisiau ac nad oes ganddyn nhw’r hyn maen nhw ei eisiau.

“Mae hyn wedyn yn cael ei ddefnyddio fel esgus i gau llyfrgelloedd.

“Mae dros 1,000 o lyfrgelloedd y Deyrnas Unedig wedi cau ers i lymder y Torïaid ddechrau yn 2010.

“Yn 2009/10, benthycodd 80,000 o drigolion Caerdydd, chwarter poblogaeth y ddinas, eitem o lyfrgell.

“Os yw llyfrgelloedd yn derbyn buddsoddiad, maen nhw’n parhau i fod yn un o’r gwasanaethau cyhoeddus mwyaf poblogaidd.”

“Canolfannau cymunedol”

Ychwanega: “Mae torri oriau agor y llyfrgell, yn enwedig yn ystod argyfwng costau byw, yn gam yn ôl.

“Mae llyfrgelloedd cyhoeddus yn un o’r ychydig leoedd yn ein dinas y gall unrhyw un ymweld â nhw yn ystod y dydd am ddim.

“Wrth i deuluoedd gael trafferth gwresogi eu cartrefi oherwydd costau byw, mae llyfrgelloedd ledled y Deyrnas Unedig yn dod yn “fanciau cynnes” i bobol sydd angen rhywle i gadw’n gynnes.

“Mae rhai hyd yn oed yn darparu diodydd poeth, dillad am ddim, cawl, cynhyrchion hylendid a chynhyrchion misglwyf am ddim.

“Mae llyfrgelloedd i bob pwrpas yn ganolfannau cymunedol i lawer o drigolion, mannau cymunedol hanfodol, mannau cynnes a chroesawgar lle gallwn gyfarfod, darllen, astudio, ymchwilio ac ysgrifennu, a lle gellir trefnu gweithgareddau dysgu a diwylliannol.

“Maen nhw’n hanfodol i lawer o geiswyr gwaith a theuluoedd incwm isel ddefnyddio’r rhyngrwyd, a hefyd am gymorth a chefnogaeth i ffoaduriaid.

“Staff ein llyfrgell sy’n sicrhau bod ein llyfrgelloedd yn agor ar amser, yn cynnal y digwyddiadau ac yn cynnig help i’r rhai mewn angen.

“Gallai lleihau nifer cyffredinol staff y llyfrgell olygu llai o help, ei gwneud yn fwy peryglus i atal neu reoli materion iechyd a diogelwch, a hyd yn oed arwain at orfod cau dros dro yn sgil prinder staff.

“Mae ymgyrch Cyngor Caerdydd i ddisodli gweithwyr proffesiynol gyda gwirfoddolwyr di-dâl yn awgrymu nad ydyn nhw’n deall, nac yn gwerthfawrogi, rôl staff llyfrgelloedd proffesiynol.

“Mae’r staff yn hybu llythrennedd mewn plant, ac oedolion sydd wedi colli allan, maen nhw’n aml yn cefnogi ac yn helpu aelodau bregus o’r gymuned.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Caerdydd am ymateb.