Fe fydd y seren Tik Tok Bronwen Lewis yn canu gyda superffan, yn ogystal â’r person cyntaf i roi gig iddi, ar y bennod nesaf o Canu Gyda fy Arwr.

Mae fideos y gantores a’r gyfansoddwraig 28 oed o Gastell Nedd wedi’u gwylio filiynau o weithiau ar-lein.

“Fi ffeili credu bo rhywun wedi dewis fi fel arwr,” meddai.

“Byddai byth wedi credu yn 28 oed bod rhywun yn galw fi’n arwr!”

Mae’r person cyntaf sydd am ganu gyda Bronwen yn dod o Abertawe.

Pan oedd Bronwen yn bymtheg oed, fe roddodd Rhys Evans y gig cyntaf erioed iddi yn Nhafarn y Gwachel, Pontardawe, fel rhan o’i waith gyda Menter Iaith Castell Nedd Port Talbot.

“Werth y byd”

Yr ail i berfformio gyda Bronwen yw un o’i ffans mwyaf, sef Dorian, sy’n gweithio fel peiriannydd oergelloedd yng Nghaerfyrddin.

Cafodd ei enwebu gan ei fos, Eirian Jenkins, oherwydd, yn ôl Eirian, yr unig beth mae o’n gwneud yw siarad amdani!

Mae o wedi dilyn gyrfa Bronwen ers y cychwyn cyntaf, gan gynnwys teithio’r holl ffordd i Gaernarfon i’w gwylio.

“Roedd e’n deimlad dw i ddim wedi cael yn fy mywyd o’r blaen,” meddai.

“Roedd e werth y byd.”