Mae Aelod Seneddol Llafur y Rhondda a chapten tîm pêl-droed merched Cymru ymhlith y rhai sydd wedi’u anrhydeddu yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd cynta’r Brenin Charles.
Dyma’r tro cyntaf i’r anrhydeddau brenhinol gael eu cyhoeddi ers marwolaeth Elizabeth II.
Mae Chris Bryant wedi’i urddo’n farchog am ei wasanaeth i wleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus, ac yntau hefyd wedi ymgyrchu ym maes anafiadau i’r ymennydd a chanser y croen, gan arwain hefyd ar safonau gwleidyddol yn dilyn yr helynt hacio ffonau a chwarae rhan yn yr ymdrechion i atal ymosodiadau Vladimir Putin ar Wcráin.
Yn y cyfamser, mae Sophie Ingle wedi derbyn OBE, gydag Ian Green, prif weithredwr Ymddiriedolaeth Terence Higgins, yn derbyn yr un anrhydedd am ei waith yn helpu pobol sy’n byw â HIV.
Mae Sophie Ingle wedi ennill 105 o gapiau dros Gymru ac mae hi’n sefyll ar ei phen ei hun ar y rhestr anrhydeddau o blith sêr chwaraeon Cymru eleni.
Mae’r Fonesig Mary Quant, merch i rieni o Gymru, hefyd wedi’i chydnabod am ei chyfraniad ym maes ffasiwn.
Ymhlith y rhai eraill sydd wedi’u anrhydeddu mae Dr Michael Thomas, cyfarwyddwr cerdd Côr Meibion Cwmbach (MBE); Colin Riordan, Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd (CBE); Claire Bevan o’r Gwasanaeth Iechyd (OBE); Edward O’Brian o elusen Macmillan (Medal Gwasanaeth Ambiwlans y Brenin); Dr Bridget Emmett (OBE) am ei gwasanaeth i briddoedd a gwyddorau ecosystemau; Felicity Bennee (OBE) am wasanaeth cyhoeddus; Alexander Loven (MBE) am wasaaeth i’r economi ac i gymuned Wrecsam; y Parchedig Euryl Howells (Medal yr Ymerodraeth) am wasanaeth i Gaplaniaeth y Gwasanaeth Iechyd.