Ar ddiwedd blwyddyn arall, mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd wedi rhannu neges o obaith.

Yn ôl Siân Gwenllian, sy’n cynrychioli etholaeth Arfon ac sy’n Aelod Dynodedig ei phlaid yn y Cytundeb Cydweithio â Llywodraeth, “mae 2022 wedi bod yn flwyddyn o heriau”.

“Rydan ni’n dal i fyw ag effeithiau Covid, rydan ni mewn dirwasgiad, rydan ni’n byw drwy argyfwng cost-byw trychinebus ac mae streiciau’n cael eu cynnal ledled y wlad,” meddai.

“Ond mae’n bwysig ein bod ni’n dod o hyd i resymau i fod yn obeithiol wrth edrych yn ôl ar y flwyddyn a aeth heibio.

“Diolch i ddylanwad Plaid Cymru, mae holl ddisgyblion ysgolion cynradd Cymru bellach ar fin derbyn prydau ysgol am ddim.

“Hefyd, cyhoeddwyd eleni y bydd gofal plant am ddim i bob plentyn dwy oed yn cael ei gyflwyno ledled Cymru fel rhan o’n Cytundeb Cydweithio â Llywodraeth Cymru.

“Yng Ngwynedd, mae 40% o’r tai sy’n mynd ar y farchnad bob blwyddyn bellach yn cael eu prynu fel ail gartrefi.

“Mae’n achos dathlu i etholwyr yn Arfon felly fod, diolch i Blaid Cymru, Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno pecyn newydd o fesurau i fynd i’r afael â niferoedd uchel o ail gartrefi.

“Bydd Plaid Cymru ar lefel llywodraeth leol yn mynd ati rŵan i ddefnyddio polisiau cynllunio a threthiant i fynd i’r afael â’r argyfwng ail gartrefi a chartrefi anfforddiadwy.

“Hefyd mae datblygiadau yn yr economi leol yn fy etholaeth i yn Arfon.

“Fel y nodais ar lawr y Senedd yn ddiweddar, mae Bangor yn prysur sefydlu ei hun fel canolfan genedlaethol ar gyfer addysg iechyd, gyda datblygiadau addawol yn yr ysgol feddygol yn ogystal ag Academi Ddeintyddol Bangor.

“Mae Uned Strôc newydd sbon wedi’i sefydlu yn yr etholaeth hefyd.

“Yn ogystal â hynny, mae Cynghorwyr Gwynedd newydd gymeradwyo cynlluniau a fydd yn arwain at sefydlu’r busnes cyntaf ym Mharc Bryn Cegin ym Mangor.

“Ar ddechrau’r flwyddyn gofynnais i Vaughan Gething AS, Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru pryd fyddai’r swydd gyntaf yn cael ei chreu ym Mharc Bryn Cegin.

“Ar ôl dros ugain mlynedd o segurdod, bydd cyflogaeth yn cael ei chreu yn y parc yn fuan.

“Ym mhen arall yr etholaeth, mae ffatri Northwood Hygiene ym Mhenygroes a gaeodd yn 2020 yn cael bywyd newydd fel hwb datgarboneiddio a fydd yn dod â 130 o swyddi i’r ardal.

“Gerllaw, ym mhentref Llanberis mae cyhoeddiad Siemens y bydd 100 o swyddi newydd o ansawdd uchel yn cael eu creu yn achos i ddathlu.

“Ar ben hynny, yn Arfon rydym yn ffodus bod gennym gyfoeth o brosiectau cymunedol ar draws yr etholaeth, ac yn y flwyddyn ddiwethaf rwyf wedi ymweld â mentrau yn Nyffryn Ogwen, Dyffryn Nantlle, Bangor, Caernarfon ac yn y pentrefi llai.”

‘Heriau’n parhau’

“Mae yna ymdeimlad cryf o ysbryd cymunedol yn yr ardal a does gen i ddim amheuaeth y byddwn yn gweld mwy o newid cadarnhaol ar lawr gwlad yn Arfon yn y flwyddyn newydd,” meddai Siân Gwenllian wedyn, wrth edrych ymlaen at 2023.

“Mae heriau’n parhau, wrth gwrs.

“Rydw innau a Hywel Williams AS yn deall bod pryder gwirioneddol am yr argyfwng costau byw, ac rydym wedi cynhyrchu llyfryn ar-lein i gyfeirio etholwyr at gymorth.

“Rydym yn byw drwy gyfnod o weithredu diwydiannol wrth i weithwyr ar draws y wlad alw am gyflog teg ac amodau gwaith gwell, a chefais y fraint o ymuno â’r llinell biced y tu allan i Ysbyty Gwynedd yn fy etholaeth.

“Mae Arfon yn arbennig yn wynebu brwydr i gadw gwasanaethau Ambiwlans Awyr Cymru yn lleol, a byddaf yn parhau i weithio gyda phartneriaid lleol i ddiogelu’r gwasanaeth.

“Serch hynny, wrth i’r flwyddyn newydd agosáu, byddaf yn parhau i weithio gyda grŵp egnïol ac uchelgeisiol o gynghorwyr yr ardal.

“Rwy’n annog trigolion lleol i gadw llygad am gymorthfeydd a gynhelir mewn cymunedau ar draws Arfon.

“Ond yn y cyfamser, hoffwn ddymuno blwyddyn newydd dda a heddychlon iawn i bobol Arfon.”